Selsig Morgannwg
Gwedd
Selsig llysieuol traddodiadol Cymreig ydy selsig Morgannwg. Ei prif gynhwysion ydy caws (Caws Caerffili fel arfer), cennin a briwsion bara.
Caiff selsig Morgannwg eu crybwyll gan George Borrow yn ei waith Wild Wales, a ysgrifennwyd yn ystod yr 1850au a cyhoeddwyd ym 1862.[1] Cynhyrchwyd yn wreiddiol gan ddenfyddio caws Morgannwg a gynhyrchwyd yn defnyddio llefrith gwartheg Gent. Nid yw'r gwartheg yn bodoli bellach[2] ond mae caws Caerffili yn tarddu o hen rysait caws Morgannwg ac mae felly gyda blas ac ansawdd tebyg.
Cynhwysion
[golygu | golygu cod]- 225g Briwsion bara ffres
- 125g Caws wedi gratio
- 3 Ŵy canolig
- 175g Cennin wedi'i falu'n fân a'i ffrio mewn ychydig o fenyn am 2 funud
- 1 Llond llwy fwrdd o bersli ffres wedi'i dorri
- Ychydig o lefrith
- Halen a phupur gwyn
- ½ Llwy de o fwstard sych
- I orffen:
- 100g Briwsion bara ffres
- 1 Ŵy canolig
- 4 Llwy fwrdd o lefrith[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Glamorgan Sausage Recipe. Welsh Holiday Cottages.
- ↑ Glamorgan sausage. Gourmet Britain.
- ↑ "Selsig Morgannwg". Croeso Cymru. Cyrchwyd 2023-03-02.