Sefydliad technoleg

Oddi ar Wicipedia

Enwau a roddir ar sefydliadau addysg amrywiol yw sefydliad technoleg a choleg polytechnig, gan amlaf yn dynodi eu bod yn darparu dysgeidiaeth a hyffordiant galwedigaethol ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, a pheirianneg. Gall sefydliad technoleg bod yn sefydliad addysg uwch sydd yn ymwneud ag ymchwil gwyddonol a pheirianegol neu ddysgeidiaeth alwedigaethol broffesiynol, neu'n ysgol uwchradd sy'n canolbwyntio ar hyfforddiant galwedigaethol technegol.

Yng Nghymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon, sefydliadau addysg drydyddol oedd colegau polytechnig. Yn sgîl Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, daethant yn brifysgolion gyda'r gallu i roi graddau.

Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato