Sedna (planedyn)
Enghraifft o'r canlynol | gwrthrych ar wahân, blaned gorrach bosibl, corff neu wrthrych bychan yng Nghysawd yr Haul, Sednoid, trans-Neptunian object |
---|---|
Dyddiad darganfod | 14 Tachwedd 2003 |
Rhagflaenwyd gan | 90376 Kossuth |
Olynwyd gan | (90378) 2003 WL23 |
Echreiddiad orbital | 0.85900164191136 ±4.3e-05 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Planed gorrach yw Sedna (dynodiad planed llai 90377 Sedna; symbol: ) sy'n teithio yn rhannau allanol Cysawd yr Haul ac sydd ar hyn o bryd yn rhan fewnol ei orbit. Hwn yw'r corff pellaf y gwyddys amdano sy'n cylchio'r Haul.[1] Ar hyn o bryd (2022), mae dros 90 Unedau Seryddol i ffwrdd, sef teirgwaith pellter Plwton oddi wrth yr Haul. Mae gan Sedna dryfesur o 1800 o gilometrau, ychydig yn llai na Phlwton.
Mae Sedna wedi ei henwi ar ôl duwies môr yr Inuit.
Mae cylchdro Sedna yn un ofal dros ben a chanddo berihelion o ryw 75 Unedau Seryddol ac yn cymryd rhyw 10,500 o flynyddoedd i gylchio'r Haul. Mae hynny'n ei rhoi tu hwnt i Wregys Kuiper ond o flaen ochr fewnol Cwmwl Oort. Mae cyfansoddiad ffisegol Sedna'n ddirgelwch. Gall fod y rhan fwyaf o'i chyfansoddiad yn iâ, ond mae'n debygol nad felly y mae. Bron yr unig beth y gellir dweud amdani ar hyn o bryd yw ei bod yn goch iawn ac ymddengys fod iâ, dŵr a methan yn absennol o'i harwyneb.
Nid Sedna yw'r "Blaned X" (y Ddegfed Blaned) a ragddyfalai llawer o seryddwyr cyn darganfyddiad Plwton. Roedd Planed X i fod yn gorff mwy ei faint.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ U+2BF2 ⯲. David Faulks (2016) 'Eris and Sedna Symbols,' L2/16-173R, Unicode Technical Committee Document Register.