Neidio i'r cynnwys

Sarah

Oddi ar Wicipedia
Sarah
GanwydUnknown Edit this on Wikidata
Bu farwUnknown Edit this on Wikidata
Hebron Edit this on Wikidata
PriodAbraham Edit this on Wikidata
PlantIsaac, Isaac in Islam Edit this on Wikidata
Sarah, gan Hans Collaert tua 1581.

Cymeriad yn yr Hen Destament a gwraig Abraham oedd Sarah, hefyd Sara (Hebraeg: שָׂרָה, Śārāh; Arabeg: 'سارة, Sārah.

Yn draddodiadol, roedd Sarah yn nith i Abraham, merch ei frawd Haran. Symudodd Sarah o Haran i Ganaan gydag Abraham a'i nai Lot dilynwyr. Yn ddiweddarach symudodd Abraham a Sarah i Mamre yn Hebron.

Roedd Sarah erbyn hyn mewn oed, ond yn dal yn ddi-blant, felly rhoddodd ei morwyn Hagar yn wraig arall i Abraham. Ganwyd mab i Hagar ac Abraham, Ishmael, ond yn ddiweddarach gyrrwyd Hagar ac Ishmael i ffwrdd gan Sarah. Yn draddodiadol, Ishmael yw cyndad yr Arabiaid. Yn ei henaint, cafodd Sarah hefyd fab, Isaac, cyndad yr Iddewon yn ôl traddodiad.

Dywedir i Sarah farw pan oedd tua 127 mlwydd oed, a chael ei chladdu yn Ogof y Patriarchiaid ger Hebron.