San Buono

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
San Buono
San buono panorama.png
Math cymuned yn yr Eidal Edit this on Wikidata
Prifddinas San Buono Edit this on Wikidata
Poblogaeth 948, 928 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Province of Chieti Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd 25.27 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 470 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Carpineto Sinello, Furci, Gissi, Liscia, Palmoli, Fresagrandinaria Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 41.9833°N 14.5667°E Edit this on Wikidata
Cod post 66050 Edit this on Wikidata

Pentref yw San Buono (Sànde Buòne yn Abruzzo) yn nhalaith Chieti yn y rhanbarth Abruzzo, yr Eidal. Mae'n rhan o Gymuned Fynyddig Canol Vastese. Mae ganddi boblogaeth o 991 o drigolion.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gwreiddiau'r pentref yn deillio o castrum (Gair Lladinaidd o amser yr Ymerodraeth Rufeinig yn golygu adeilad, neu rhan o dir a ddefnyddir fel gwersyll gaerog filwrol)  o'r X ganrif. Mi fu dan wrogaeth teulu bonheddig y di Sangro  (yn wreiddiol o Ffrainc) ac yna'r Caracciolo. Yn agos i Ffynnon Santes Nicola daethpwyd o hyd i adfeilion cysegredig Eidalig. Daethpwyd o hyd i fannau cysegredig eraill yn ardal Vusco.Yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar, roedd San Buono yn bentref gyda thŵr (arferai teuluoedd cefnog yr amser adeiladu tyrrau fel statws symbolaidd). Yn Castellaro darganfuwyd beddau anthropomorffaidd, rhai sydd bellach wedi eu hatgyweirio.[1]

Enw'r pentref[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y gorffennol, enw'r pentref oedd Sancti Boni neu  Castrum Bonum, ac yna fe'i galwyd yn Sancto Bono cyn newid i'r new presennol.

Henebion a mannau o ddiddordeb.[golygu | golygu cod y dudalen]

Pentref Amddiffynnol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r pentref o bosibl yn dyddio o gyfnod cyn y 15g. Nid yw'r castell yn bodoli mwyach. Adeiladwyd y pentref mewn arddull a reolwyd gan deulu'r Caracciolo yn y 15g, yn y cyfnod hwn arferant gau giât y porth, a leolwyd yn ôl pob tebyg rhwng y Palazzo Caracciolo ac eglwys San Lorenzo. Rhed prif strwythur strydoedd y pentref mewn crib ar hyd prif echel y bryn. Adeiladwyd La Porta de Piedi (Porth y Traed neu Borth San Angelo) o flaen y Palazzo Caracciolo, ac Eglwys San Lorenzo. Wrth ymyl yr Hen Ffynnon, mae  adeilad crwn sydd heb fod yn rhy uchel, gyda muriau a beth all fod unai yn 'scarpo' (ffordd o adeiladu mur castell fel bod mur boliog yn ymgau tua'r tŵr ar y pen uchaf), ag felly'n rhan o fur amddiffynnol y pentref, neu a all fod yn adfail o 'dŷ eira' (neviera). Arferai tai eira gael eu llenwi ag eira o agoriad yn y to'n ystod gaeafau, ac yna byddai'r eira'n cael ei wasgu dan draed y tu fewn i'r adeilad y gadwyd iddo rewi.[2]

  • Eglwys San Lorenzo

Mae wedi ei leoli yn Sgwâr G. Amicarelli ac mae'n dyddio o'r 14g; daw'r cyfeiriadau cyntaf ohoni o ddegawdau cyntaf y garnif honno. Yn ystod ei hoes mae wedi cael nifer o drawsffurfiadau a newidiadau ychwanegol yn ôl arddull y rhanbarth leol, a hefyd yn dilyn daeargrynfeydd. Mae rhai newidiadau yn dyddio rhwng 1744 a 1774. Gyda dyfodiad creiriau San Buono yn 1752 adeiladwyd y claddgell ac adeiladau eraill wedyn rhwng 1850 a 1855. Yn 1893 fe adnewyddwyd y clochdy. Yn 1942  addaswyd ffasâd yr adeilad ar arddull neo-romanésg. Mae ystrwythyr hynafol i'r ystlysluniau. Mae corff yr eglwys, ar arddull neo-glasrol, ac mae'r  allor marmor yn dyddio o'r  18g. Mae pren amryliw i'r organ sydd wedi ei lleoli yn llwyfan y côr uwchben y fynedfa, o'r un cyfnod â'r allor.

  • Fonte Vecchina (Yr Hen Ffynnon)
Mae'r ffynnon hon wedi ei hamgylchynu gan strwythyr yn dyddio o'r 18ed garnif. Ar ochr y strwythyr mae'r ffynnon â basn ymolchi  o fewn ffrâm a thalcen crwm, a gwahanol gilfachau arbennig lle roedd cerfluniau ac addurniadau. Mae'r brif ffasâd wedi ei haddurno gyda brics mwen ffurf bwa isel/ archetti bassi a tutto sesto  wedi ei fframio â philastrau brics a chalchfaen/pietra calcarea.[3]
  • Lleiandy  Sant'Antonio
Ffasâd Lleiandy Sant'Antonio

Wedi ei leoli yn ardal Sant'Antonio ac yn dyddio o gyfnod rhwng  1500 ac 1575, mae'r eglwys yn gymharol fach gyda neuadd a naf. Mae ei hyd yn cyfateb i un ochr a chloestr o'r annedd byw. Yn ei chyfnod cynnar, roedd yno dalcen crwn/cromfan â fawt er bod naf bach y nenfwd mewn strwythyr ffrâm A (capriate)/ trawstiau. Ar y waliau roedd murluniau, ffresgoau, cysegrfannau, ac allorau a wnaed o bren.[4] Mae'r ffasâd wedi ei rannu tros dair lefel gan dair llain-gyrsiau, yn fertigol, mae'n cael ei rhannu'n dair rhan gan pedwar strip-pilastrau ac ar ochr yr eglwys mae cloch ar y talcen gyda pediment trionglog.[5]

Hyd at 2011, fe gartrefwyd yr Amgueddfa Celf ac Archeoleg yn Vastese, ac fe'i throsglwyddwyd ym Mehefin 2012 i Gastell Monteodorisio. 

  • Ffynnon Santes Nicola

 Wedi ei leoli ym Monte Sorbo, ar y ffîn â Carpineto Sinello mae olion hen ffynnon Santes Nicola. Yn 1986 fe'i dynodwyd yn leoliad gysegredig. Mae gwaith cloddio archeolegol wedi ei rannu yno i dri phwynt: parth y gromfan i'r gorllewin, parth draen/ffôs addunedol  i'r gogledd-ddwyrain ac i'r gorllewin, strwythur dorri o odyn galch o'r amser ôl-glasurol, efallai capel neu strwythur ynghlwm â'r gysegrfa.  Mae'r adeilad  gromfannol yn cynnwys eglwys fach gyda'i sylfaen yn cyfeirio tuag at weddillion o hen allor. O fewn y waliau daethpwyd o hyd i golofn o garreg wedi ei naddu. Efallai cafodd yr adeilad sanctaidd ei hadfer yn ystod yr oes ymerodrol.  Yn y cyfnod ôl-glasurol, fe honnir fod yr adeilad gromfannol Gristnogol bresennol wedi ei adeiladu tros adfeilion deml Bagannaidd. Mae tystiolaeth yn dangos fod yr eglwys wedi ei hadeiladu tros necropolis yn dyddio o'r oes yr haearn, o'r un lle cafwyd hyd i ddau fibulae (tlws) efydd. Credir fod y ffynnon a'r man cyfagos wedi eu hailddefnyddio ar gyfer addoli ar hyd yr oesoedd. Adferwyd nifer o wrthrychau offrymol o'r ffynnon gan gynnwys  powlenni, cwpanau, a nifer o gwpanau a ddefnyddwyd i yfed y dŵr cysegredig. Hefyd cafwyd o hyd i wrthrychau efydd addunedol gan gynnwys ailgynyrchiadau o Hercules , ac amryw o arfau a gwrthrychau mewn  terracotta yn darlunio anifeiliaid a rhannau anatomegol dynol, mwyaf tebyg yn ymwneud â chredoau iechyd. Credir fod adfeilion teml Italeg yn dyddio yn ôl at y III Ganrif OC tra bod y darganfyddiadau'n dyddio'n ôl i'r cyfnod rhwng y IV â'r gasrif gyntaf OC,  mae'r rhan helaeth o'r gwrthrychau wedi cael eu dyddio rhwng y III â'r II ganrif OC.Mae rhan o'r darganfyddiadau yw gweld yn yr Amgueddfa yn Lleiandy  Sant ' Antonio.

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Sioeau a digwyddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Sioeau a digwyddiadau o bwys yn San Buono:[6]

  • 12 Mehefin: Gŵyl Cig Oen a 'triccitelle' (bwydydd wedi eu gwneud allan o rannau eraill o gorff yr oen) yn San Antonio.
  • 13 Mehefin: Gŵyl Sant'Antonio da Padova;
  • 10 Awst: ail-grëad hanes ffiwdaliaeth teuluol yn San Buono.;
  • 11 Awst: Gŵyl San Buono;
  • 16 Awst: Gŵyl San Rocco.
  1. Cenni storici
  2. Borgo fortificato
  3. Fonte Vecchia
  4. Convento di Sant'Antonio
  5. Disgrifiad o'r twll ar y sito
  6. feste e tradizioni

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]