Samnium

Oddi ar Wicipedia
Yr Eidal tua 400 CC

Rhanbarth hanesyddol yn yr Eidal yn rhan ddeheuol canolbarth mynyddoedd yr Apenninau oedd Samnium (Osceg: Safinim; Eidaleg: Sannio). Yma y trigai'r Samnitiaid, grŵp ethnig o lwythau Sabelaidd a reolai'r ardal rhwng tua 600 CC a thua 290 CC. Roedd Samnium yn ffinio ar Latium yn y gogledd, ar Lucania yn y de, ar Campania yn y gorllewin ac ar Apulia yn y dwyrain. Y prif ddinasoedd oedd Bovaiamom, heddiw Bojano. a Malventum, yn ddiweddarach Beneventum, a heddiw Benevento).

Roedd y Samnitiaid wedi eu rhannu i o leiaf bedwar llwyth, y Pentri, gyda'u prifddinas yn Bovianum, y Caraceni, y Caudini a'r Hirpini. Bovianum oedd prifddinas y gynghrair.

Ymladdodd y Samnitiaid nifer o ryfeloedd yn erbyn Gweriniaeth Rhufain. Enillasant frwydr bwysig yn erbyn y Rhufeiniaid yn 321 CC, ond gorchfygwyd hwy yn 290 CC. Ymladdasant yn erbyn Rhyfain eto yn Rhyfel y Cyngheiriaid, ond gorchfygwyd hwy gan Lucius Cornelius Sulla yn 82 CC, gyda lladdfa fawr.