Neidio i'r cynnwys

Samizdat

Oddi ar Wicipedia
Samizdat
Mathself-publishing, underground press Edit this on Wikidata
Enw brodorolсамизда́т Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Samizdat oedd yr enw ar gyhoeddiadau llenyddol a gwleidyddol tanddaearol gan awduron anghydffurfiol yr Undeb Sofietaidd.[1] Gan fod sensoriaeth caeth y drefn Gomiwnyddol yn golygu gwahardd llawer o awduron rhag cyhoeddi eu gweithiau, roedd pobl yn defnyddio teipysgrifau syml i gylchredeg eu gwaith. Roedd y cosbau am gael eich dal gyda chopïau o weithiau gwaharddedig yn llym. Roedd angen caniatâd i fod yn berchen ar wasg argraffu, ac roedd angen trwydded ar gyfer pob math o argraffu. Fodd bynnag, roedd teipiaduron yn gyffredin a, gyda chymorth papur carbon, cynhyrchwyd a chylchredwyd llawer o gopïau o'r gweithiau gorau.

Unwaith yr oedd samizdatau mewn cylchrediad, byddent weithiau'n cyrraedd y Gorllewin. Cyhoeddwyd nifer o weithiau pwysig o samizdat a'u cyfieithu, cyn iddynt gael eu cyhoeddi'n swyddogol yn yr Undeb Sofietaidd.

Enw tarddiad ac amrywiadau

[golygu | golygu cod]
Samizdat wedi ei guddio tu fewn i gyhoeddiad arall. Yn Amgueddfa Dioddefwyr Hil-laddiad, Vilnius

Mae'r gair samizdat yn tarddu o "sam" (сам: 'hunan, ar eich pen eich hun') ac "izdat" (издат: talfyriad o издательство, izdatel′stvo 'tŷ cyhoeddi'), ac felly yn golygu 'hunan-gyhoeddi'. Term tebyg sydd yn Wcreineg: samvydav (самвидав), o "sam" 'hunan' a "vydavnytstvo" 'tŷ cyhoeddi'.[2]

Bathodd y bardd Rwsieg, Nikolay Glazkov fersiwn o'r term fel gair mwys yn y 1940au pan deipiodd gopïau o'i gerddi a chynnwys y nodyn Samsebyaizdat (Самсебяиздат, "Fi Fy Hun gan Gyhoeddwyr") ar y dudalen flaen.[3]

Y term Pwyleg am y ffenomen hon a fathwyd tua 1980 oedd drugi obieg, neu "ail gylched" cyhoeddi.[4]

Fersiynau eraill

[golygu | golygu cod]
  • Tamizdat - yn cyfeirio at lenyddiaeth a gyhoeddwyd dramor (там, tam 'acw'), yn aml o lawysgrifau wedi'u smyglo.[5]
  • Magnitizdat - yn cyfeirio at smyglo recordiadau sain (magnit, gan gyfeirio at dâp magnetig), yn aml o gerddi, darlithoedd neu gerddoriaeth danddaearol.

Dechreuodd Samizdat ymddangos yn dilyn marwolaeth Joseph Stalin yn 1953, yn bennaf fel gwrthryfel yn erbyn cyfyngiadau swyddogol ar ryddid mynegiant. Wedi diorseddu Nikita Khrushchev yn 1964, ehangodd cyhoeddiadau samizdat eu ffocws y tu hwnt i ryddid mynegiant i feirniadaeth o sawl agwedd ar bolisïau a gweithgareddau swyddogol Sofietaidd, gan gynnwys ideolegau, diwylliant, y gyfraith, polisi economaidd, hanesyddiaeth, a thriniaeth o grefyddau a lleiafrifoedd ethnig. Oherwydd monopoli llym y llywodraeth ar weisg, llungopïwyr, a dyfeisiau eraill o’r fath, roedd cyhoeddiadau samizdat fel arfer ar ffurf copïau carbon o ddalennau wedi’u teipio oedd yn cael eu trosglwyddo o law i law, o ddarllenydd i darllenydd.

Roedd prif genres samizdat yn cynnwys adroddiadau am weithgareddau gwrthryfelgar a newyddion eraill a ataliwyd gan gyfryngau swyddogol, protestiadau yn erbyn y gyfundrefn, trawsgrifiadau o dreialon gwleidyddol, dadansoddiad o themâu economaidd-gymdeithasol a diwylliannol, a hyd yn oed pornograffi.[1]

Cyn gweithredu polisi glasnost (tryloywder gwybodaeth) gan Mikhail Gorbachev yn 1986 , roedd yr arferiad yn beryglus, oherwydd roedd argraffwyr, copïwyr a hyd yn oed teipiaduron o dan reolaeth uniongyrchol yr "Adrannau Cyntaf" (sef allbyst KGB) a storiwyd copïau cyfeirio ym mhob un ohonynt, at ddibenion adnabod yn ddiweddarach.

Cyhoeddiadau Samizdat nodedig

[golygu | golygu cod]
Copi o Samizdat "Cronicl Digwyddiadau Cyfredol", rhif 22

Ceir sawl cyhoeddiad Samizdat dylanwadol. Oherwydd natur bregus cyhoeddi llenyddiaeth gwaharddedig a di-incwm, byrhoedlog oedd nifer o'r samizdatiau. Serch hynny, roedd rhai a barhaodd am sawl blwyddyn. Yn eu mysg oedd:

Хроника текусхих собити (Cronicl Digwyddiadau Cyfredol)

[golygu | golygu cod]

Un o'r samizdatau mwyaf adnabyddus a hirhoedlog oedd y cylchlythyr Хроника текусхих собити (Orgraff Gymraeg: "Chronica tekwschich sobiti", "Cronicl Digwyddiadau Cyfredol")[6] oedd yn ymroddedig i amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol sylfaenol yn yr Undeb Sofietaidd. Cyhoeddwyd 63 rhifyn yn ddirgel am 15 mlynedd (cyfartaledd o tua phedwar y flwyddyn), rhwng 1968 a 1983 (yn cyd-fynd â gwaeledd Brezhnev), lle y collfarnwyd pob math o benderfyniadau mympwyol a chamdriniaeth gan yr awdurdodau comiwnyddol, digwyddiadau oedd yn hysbys i'r cyhoedd ond roedd lledaenu gwybodaeth amdanynt yn agored yn drosedd ddifrifol. Roedd awduron y dogfennau hyn, yn ddienw, yn annog darllenwyr i ddefnyddio'r un "sianeli dosbarthu anffurfiol" i anfon eu beirniadaethau a'u sylwadau, a fyddai'n cael eu hateb mewn rhifynnau dilynol. Yn ogystal, cawsant eu gwahodd i anfon gwybodaeth leol o'u hardaloedd nhw, gyda honiadau na allai byth ymddangos yn y wasg o dan sensoriaeth y llywodraeth.

Roedd y Cronicl yn adnabyddus am ei arddull gryno a sych, i'r graddau bod ei golofnau rheolaidd yn dwyn y teitl "Arestiadau, cyrchoedd, holiadau", "gormes allfarnol", "Mewn carchardai a gwersylloedd (Gulag)", "Newyddion y samizdat", "Erledigaeth crefydd" , "Erledigaeth Tatars y Crimea", "Gormes yn yr Wcráin", ymhlith eraill, a wnaeth yn glir wrthwynebiad eu hawduron i'r gormes wleidyddol a weithredwyd gan lywodraeth yr Undeb Sofietaidd.

Honnodd awduron y Cronicl, fodd bynnag, yn unol â'r Cyfansoddiad Sofietaidd (a ddiwygiwyd ym 1977 ac o oedd yn debyg i'r un a luniwyd yn 1936 yng nghyfnod Stalin), nad oedd cyhoeddi o'r fath yn anghyfreithlon ynddo'i hun, gan fod Cyfansoddiad yr Undeb Sofietaidd yn amddiffyn rhyddid mynegiant. Fodd bynnag, cosbodd deddfau cosb yr Undeb Sofietaidd awduron unrhyw gyhoeddiad "gwrth-Sofietaidd" gyda dedfrydau carchar difrifol yn y gulag, a felly y barnwyd unrhyw gynnwys a oedd yn cwestiynu'r drefn, yn mynegi syniadau gwrth-gomiwnyddol, neu'n gwadu gormes gwleidyddol.

Еврей в СССР (Yr Iddewon yn yr Undeb Sofietaidd)

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddiad nodedig a hirhoedlog arall o'r samizdat (tua 20 rhifyn yn y cyfnod 1972 - 80 ) oedd y cylchgrawn gwleidyddol a llenyddol Еврей в СССР (a drawsgrifiwyd fel Ievrei v SSSR , "Yr Iddewon yn yr Undeb Sofietaidd" ), a sefydlwyd ac a olygwyd gan Aleksandr Voronel ac, ar ôl ei ymddeoliad, gan Mark Azbel ac Aleksandr Luntz. Roedd y lledaeniad cychwynnol o dechnolegau cyfrifiadurol yn yr Undeb Sofietaidd yn yr 1980au, oherwydd yr agoriad bach i fewnforion gan lywodraeth Mikhail Gorbachev, yn ei gwneud yn gymharol anodd i'r gyfundrefn Sofietaidd frwydro yn erbyn ffenomen samizdatau.

Llyfrau nodedig a gyhoeddwyd gyntaf trwy samizdat

[golygu | golygu cod]

Defnydd cyfoes o'r term

[golygu | golygu cod]

Caiff y term samizdat ei ddefnyddio'n aml (efallai'n ffuantus braidd) ers cwymp yr Undeb Sofietaidd fel llaw-fer ar gyfer unrhyw fath o fynegiant o Gomiwnyddiaeth neu Ddwyrain Ewrop yr hen Bloc Comiwnyddol Dwryain. Ceir gŵyl ffilm o'r enw 'Samizdat' yn yr Alban sy'n arbenigo mewn arddangos ffilmiau o Ddwyrain Ewrop.[7]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Samizdat". Britannica. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2024.
  2. Balan, Borys (1993). "Samvydav". In Kubijovyč, Volodymyr (ed.). Encyclopedia of Ukraine. 4: Ph - Sr. Toronto: Univ. of Toronto Press. ISBN 978-0-8020-3994-1.
  3. Komaromi, Ann (2004). The Material Existence of Soviet Samizdat. Slavic Review. 63 (3): 597–618. doi:10.2307/1520346. JSTOR 1520346. S2CID 155327040.
  4. "drugi obieg wydawniczy, Encyklopedia PWN: źródło wiarygodnej i rzetelnej wiedzy". encyklopedia.pwn.pl.
  5. Kind-Kovács, Friederike; Labov, Jessie (2013). Samizdat, Tamizdat, and Beyond: Transnational Media During and After Socialism. New York: Berghahn Books: Studies in contemporary European history. ISBN 978-0-85745-585-7.CS1 maint: uses authors parameter (link)
  6. ar gael yn Rwsieg [http:// www.memo.ru www.memo.ru]
  7. "About". Samizdat Film Festival. 2024. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2024.