Saltaire
| Math | pentref model |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Titus Salt |
| Ardal weinyddol | Shipley |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 20 ha |
| Cyfesurynnau | 53.8372°N 1.7903°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
| Sefydlwydwyd gan | Titus Salt |
| Manylion | |
Pentref model Fictoraidd yn Shipley, Gorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, ydy Saltaire.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Dinas Bradford. Gan fod y lle o bwysigrwydd hanesyddol fel enghraifft ardderchog o bentref diwydiannol sydd wedi goroesi bron yn gyfan gwbl, mae ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 2001.[2]
Adeiladwyd Saltaire ym 1851 gan Syr Titus Salt, un o brif ddiwydianwyr diwydiant gwlân Swydd Efrog. Mae enw "Saltaire" yn gyfuniad o gyfenw'r sefydlydd ac enw Afon Aire, sy'n llifo drwy'r pentref. Mae'r pentref hefyd wedi'i leoli ar Gamlas Leeds a Lerpwl a wasanaethodd Salts Mill, melin wlân Titus Salt. O amgylch y felin adeiladodd Salt dai cerrig taclus ar gyfer ei weithwyr, golchdai, ymolchdai, ysgol, ysbyty, elusendai, rhandiroedd, parc a thŷ cychod. Roedd yna hefyd sefydliad ar gyfer hamdden ac addysg, gyda llyfrgell, ystafell ddarllen, neuadd gyngerdd, ystafell filiards, labordy gwyddoniaeth a champfa.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 1 Mehefin 2019
- ↑ "Saltaire". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 1 Mehefin 2019.
