Salmeterol
Mewnanadlydd brand Serevent o salmeterol | |
| Enghraifft o: | par o enantiomerau |
|---|---|
| Math | aromatic alcohol, phenols, alkanolamine, phenyl compound, Ether |
| Màs | 415.272 uned Dalton |
| Fformiwla gemegol | C₂₅h₃₇no₄ |
| Enw WHO | Salmeterol |
| Clefydau i'w trin | Asthma, clefyd rhwystrol yr ysgyfaint |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/04nkxg |
| CAS | 89365-50-4 |
| PubChem CID | 5152 |
| ChEBI | 64064 |
| ChEMBL | Chembl1263 |
| ChemSpider | 4968 |
| UNII | 2i4bc502bt |
| ATC | R03ac12 |
| KEGG | C07241, d05792 |
| Llawlyfr Ligand | 559 |
| Rhif EC | 618-267-2 |
| Drugbank | Db00938 |
| ECHA | 100.122.879 |
| HMDB | Hmdb0015073 |
| RxNorm CUI | 36117 |
| UMLS CUI | C0073992 |
| NDF-RT | N0000021960 |
Mae salmeterol yn fath o feddyginiaeth. Mae'n broncoledydd. Mae hyn yn golygu ei fod yn gwneud y bronciolynnau - y tiwbiau sy'n dod ag ocsigen i'r ysgyfaint - i ehangu. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i ocsigen gyrraedd yr ysgyfaint. O'r ysgyfaint, mae ocsigen yn mynd i mewn i'r gwaed ac yn teithio i weddill y corff.
Mae salmeratol yn cael ei werthu o dan yr enw brand Serevent yn y DU.[1]
Defnydd
[golygu | golygu cod]Mae salmeterol yn froncoledydd sympathomimetig sy'n cael ei ddefnyddio i drin cyflyrau megis asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a gwayw ar gyhyrau llyfn y bronci; cyflyrau lle mae'r llwybrau anadlu yn cael eu culhau. Ei fantais dros salbutamol yw bod ei effeithiau yn para'n hirach[2].
Mae salmeterol yn ymlacio'r cyhyrau sy'n amgylchu'r llwybrau anadlu yn yr ysgyfaint. Gan ei fod yn araf wrth gychwyn gweithio, nid yw'n cael ei ddefnyddio er mwyn gwellhad unionyrchol o symptomau asthma. Mae'n cael ei ragnodi er mwyn osgoi ymosodiadau ac mae'n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y sawl sy'n cael pyliau asthma yn y nos.
Mae salmeterol wastad yn cael ei ragnodi gyda chorticosteroidau. Mae salmeterol ar gael fel paratoad cyfunol a'r corticosteroid fluticasone o dan yr enw Seretide[3].
Dos
[golygu | golygu cod]Fel arfer mae dos o salmeratol rhwng 100 micro gram a 200 micro gram pob dydd. Mae'n cael ei weini trwy fewnanadlydd. Mae'r feddyginiaeth yn cymryd tua 10 i 20 munud i weithio ac mae ei effeithiau yn para am tua 12 awr.
Mae salbutamol ar gael trwy ragnodi gan feddyg neu weithiwr iechyd awdurdodedig arall yn unig yn y Deyrnas Gyfunol.
Sgil effeithiau
[golygu | golygu cod]Oherwydd ei fod yn lledu'r gwythiennau, mae sgil effeithiau cyffredin salmeterol yn cynnwys penysgafnder, haint yn y sinws a'r feigryn. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae sgil effeithiau salmeterol yn fach ac nid oes angen triniaeth neu fe ellir eu trin yn hawdd. Mae rhai o'r sgil effeithiau mwy difrifol yn cynnwys y galon yn curo'n gyflym iawn, pwysau gwaed uchel ac anadlu yn mynd yn anoddach yn hytrach na mynd yn haws. O ddioddef o'r sgil effeithiau mwy difrifol hyn dylid cysylltu â darparwr gofal iechyd ar frys[4].
Does dim tystiolaeth bod salmeterol yn creu problemau o'i ddefnyddio pan fo'r claf yn feichiog neu'n bwydo ar y fron.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ BMA New Guide to Medicine & Drugs Rhif 8 (2015) ISBN13:9780241183410 tudalen 383 salmeterol
- ↑ NICE SALMETEROL adalwyd 20 Ionawr 2018
- ↑ Seretide 50, 125, 250 Evohaler adalwyd 20 Ionawr 2018
- ↑ Drugs.com Salmeterol adalwyd 20 Ionawr 2018
| Cyngor meddygol |
|
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |