Safleoedd rhyw

Oddi ar Wicipedia

Safle sy'n cael ei ddefnyddio gan ddau berson yw safle rhyw pan maen nhw'n cael cyfathrach rywiol neu weithgareddau rhywiol arall. Er bod cyfathrach rywiol yn cynnwys treiddiad rhywiol fel arfer, neu gyffroi organau rhywiol rhywun arall, nid oes rhaid i safle rhyw gynnwys treiddiad neu gyffroad. Ymarferir tri chategori o gyfathrach rywiol fel arfer: cyfathrach wain, sy'n cynnwys treiddio'r wain gyda phidyn neu offeryn arall, rhyw geneuol (y genau, y ceg), sy'n cynnwys cyffroi'r pidyn, gwain, neu anws gyda'r geg neu/a'r tafod; a rhyw rhefrol, sy'n cynnwys rhoi pidyn neu offeryn i mewn i'r anws.[1] Gellid hefyd defnyddio'r bysedd neu ddwylo neu wneud cyd-fastyrbio megis gafael y pidyn a/neu'r ceilliau a'i rhwbio. Gellid defnyddio nifer o safleoedd rhyw wrth wneud cyfathrach wain, rhyw geneuol, neu ryw rhefrol, gan greu bron rhif di-ben-draw o safleoedd rhyw o ganlyniad.

Safleoedd treiddiol[golygu | golygu cod]

Dyma'r prif rai; mae'r safleoedd hyn yn cynnwys rhoi pidyn neu offeryn rhyw (megis dildo) i mewn i'r wain neu anws:

Teitl Llun Disgrifiad
Safle cenhadol Safle rhyw rhwng dau bartner ydy safle cenhadol lle ceir cyfathrach rywiol gonfensiynol. Yn y safle hwn, mae'r ferch (neu'r derbyniwr) yn gorwedd ar ei chefn a'r dyn (neu'r rhoddwr) yn penlinio neu'n gorwedd rhwng ei choesau. Gan eu pont yn wynebu'i gilydd gallent gusanu ac edrych i lygaid ei gilydd - sy'n gwneud y safle hwn yn ffefryn gan gyplau rhamantus. Caiff ei defnyddio hefyd gan hoywon.
Rhyw o'r tu ôl Mae'r safle yma'n debyg i'r safle cenhadol, ond fod y derbynnydd wedi troi a'i chefn at y dyn.
Rhefru o'r tu ôl Rhyw sy'n cynnwys rhoi'r pidyn i mewn i ben ôl partner rhyw (dyn neu'n ddynes) yw rhyw rhefrol neu ryw ben-ôl. Amrywiaeth ar y thema hon yw Llam Llyffant (Saesneg: Leapfrog position), lle mae pen y partner sy'n derbyn ar ogwydd isel - yn cyffwrdd y llawr neu'r gwely.
Derbynnydd ar y top Safle rhyw rhwng dau bartner ydy derbynnydd ar y top lle ceir cyfathrach rywiol. Gelwir y safle rhyw yma hefyd yn safle cowboi. Gall y rhoddwr roi ei bidyn naill ai yng ngwain neu ym mhen ôl y derbyniwr.
Llwyau caru Safle sy'n ymdebygu i ddwy lwy ar eu hochrau ydy'r safle hwn. Mae penliniau'r derbynnydd fel arfer wedi eu plygu a gall y rhoddwr roi ei bidyn naill ai yng ngwain neu ym mhen ôl y derbyniwr. Caiff ei defnyddio'n aml pan fo'r ferch yn feichiog.
Rhyw tra'n sefyll Oherwydd pwysau'r derbyniwr, mae gofyn i'r dyn fod yn gymharol gryf i gynnal y pwysau. Amrywiaeth ar y safle hwn yw'r un lle gorffwysir pen-ôl y derbyniwr ar ddodrefnyn.

Rhyw andreiddiol[golygu | golygu cod]

Mae' safleoedd hyn yn cynnwys: hunan leddfu, ffistio, byseddu, dŵad ar wyneb a bukkake.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Sexual Intercourse. Discovery Channel.