Rudolf Agricola

Oddi ar Wicipedia
Rudolf Agricola
Portread diweddarach (tua 1532) o Rudolf Agricola gan Lucas Cranach yr Hynaf.
Ganwyd28 Awst 1443, 17 Chwefror 1444 Edit this on Wikidata
Baflo Edit this on Wikidata
Bu farw27 Hydref 1485, 28 Hydref 1485 Edit this on Wikidata
Heidelberg Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Hen Brifysgol Lefeven Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, cyfansoddwr, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Ysgolhaig Ffrisiaidd oedd Rudolf Agricola (Lladin: Rudolphus Agricola Phrisius; 1443 neu 144427 Hydref 1485) sydd yn nodedig fel un o brif ddyneiddwyr Dadeni'r Gogledd.

Ganed ef yn Baflo, a chafodd elfennau ei addysg yn Ysgol St Maarten yn Groningen cyn derbyn gradd baglor o Brifysgol Erfurt ym 1458 a gradd meistr o Leuven ym 1465. Un o Frodyr y Bywyd Cyffredin ydoedd, ac astudiodd weithiau Nikolaus von Kues yn frwd. Astudiodd hefyd ym mhrifysgolion Cwlen, Padova, a Ferrara, ac yn yr Eidal daeth dan ddylanwad neo-glasuriaeth y Dadeni Dysg. Yn wahanol i nifer o'r ddyneiddwyr Eidalaidd, daliodd Rudolf yn selog at yr Eglwys Gatholig, gan ddefnyddio'r ymadrodd Philosophia Christi i ddisgrifio'i syniadaeth o gymodi doethineb y byd clasurol â'r ffydd Gristnogol.

Dechreuodd yn ei dri degau ysgrifennu ei brif weithiau, gan gynnwys anerchiad er mawl i athroniaeth (1476), ei fywgraffiad o'r bardd Petrarca (1477), De Inventione Dialectica libri tres (1479), a'i ohebiaeth doreithiog â gwŷr hyddysg eraill yr oes. Daeth yn enwog am ei feistrolaeth ar yr ieithoedd Lladin, Groeg, ac Hebraeg, a chyflawnodd cyfieithiad o Lyfr y Salmau o'r Hebraeg Feiblaidd i Ladin.

Yn niwedd y 1470au a dechrau'r 1480au, teithiodd Agricola ar draws yr Iseldiroedd a gogledd-orllewin yr Almaen gan ymweld â sawl prifysgol. Ym 1484 derbyniodd wahoddiad oddi ar Johann von Dalberg, Esgob Worms, i ddarlithio ar bwnc llenyddiaeth glasurol ym Mhrifysgol Heidelberg, ac yno ysgrifennodd draethawd am addysg, De formando studio. Bu farw yn Heidelberg, oddeutu 42 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Rodolphus Agricola. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Rhagfyr 2023.