Rosamund Jacob
Rosamund Jacob | |
---|---|
Ffugenw | F. Winthrop |
Ganwyd | 13 Hydref 1888 South Parade |
Bu farw | 11 Hydref 1960 Dulyn |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, awdur plant, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét |
Ffeminist a swffragét o Iwerddon oedd Rosamund Jacob (13 Hydref 1888 - 11 Hydref 1960) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, awdur plant ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched. Ei henw-awdur oedd F. Winthrop,[1] a'i henw Gwyddelig oedd Róisín Nic Sheamuis.[2]
Crynwyr oedd ei rhieni, Lewis Jacob a Henrietta Harvey, ac fe'i ganed yn South Parade, Waterford lle bu'n byw tan 1920.[3]
Roedd yn ymgyrchydd gydol oes dros achos a hawliau merched, achosion gweriniaethol a sosialaidd ac roedd yn awdur ffuglen. Enw ei nofel gyntaf oedd Callaghan ac fe'i cyhoeddwyd ym 1920.
Y Gweriniaethwr
[golygu | golygu cod]Ynghyd â'i brawd Tom, roedd Rosamund Jacob yn aelod o Sinn Féin o 1905 ymlaen, ac yn ddiweddarach Fianna Fáil. Roedd hefyd yn aelod o Gymdeithas Cumann na mBan, y Gynghrair Aeleg a Chynghrair Etholfraint Menywod Iwerddon (the Irish Women's Franchise League). Gwrthwynebai Cytundeb Eingl-Wyddelig 1921 ac roedd yn ymwneud yn arbennig â sefydliadau asgell chwith a gweriniaethol yn y 1920au a'r 1930au. Cafodd ei charcharu yng Ngharchar Mountjoy yn ystod Rhyfel Cartref Iwerddon, sef y Cogadh Cathartha na hÉireann.[1][4][5][6]
Yn 1931 teithiodd i Rwsia fel cynrychiolydd Cyfeillion Gwyddelig Rwsia Sofietaidd. Bu'n rhan o Gynghrair Ryngwladol y Merched dros Heddwch a Rhyddid ac yn ddiweddarach a bu'n aelod o Gymdeithas Gwragedd Iwerddon.[7]
Yn y 1920au a'r 1930au bu mewn perthynas â chyd-weriniaethwr, Frank Ryan. Chwaraeodd ran flaenllaw yn yr ymgyrch wleidyddol i sicrhau rhyddid Ryan rhag Sbaenwr Cenedlaetholgar, ac yn ddiweddarach gweithiodd i amddiffyn ei enw da, wedi i'r newyddion am ei farwolaeth yn yr Almaen Natsïaidd ddod yn hysbys.
Bu'n byw yn ardal Belgrave Square, yn ardal Rathmines yn Nulyn o 1942. O 1950, rhannodd dŷ gyda'i ffrind Lucy Kingston yn 17 Charleville Road. Cadwodd Rosamond Jacob ddyddiadur bron bob diwrnod o'i bywyd, ac mae 171 o'r dyddiaduron hyn ymhlith ei phapurau llenyddol a gwleidyddol a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Jacob, Rosamund (1888–1960)". Women in World History: A Biographical Encyclopedia. Yorkin. 2002. ISBN 978-0-7876-3736-1. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-11. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ "Census of Ireland 1911". National Archives. Cyrchwyd 2014-05-13.
- ↑ Dyddiad geni: "Rosamond Jacob".
- ↑ www.ul.ie; adalwyd 2 Mai 2019.
- ↑ "Rosamond Jacob (1888-1960)". Ricorso.net. 2011-01-08. Cyrchwyd 2014-04-10.
- ↑ "Figures depicted in the film". Queen's University Belfast. Cyrchwyd 2014-05-13.
- ↑ "Queen's University Belfast | Rosamond Jacob and Frank Ryan". Qub.ac.uk. Cyrchwyd 2014-04-10.