Rosa Schapire

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rosa Schapire
Gramatte Rosa Schapire.jpg
Ganwyd 9 Medi 1874, 1874 Edit this on Wikidata
Brody Edit this on Wikidata
Bu farw 1 Chwefror 1954 Edit this on Wikidata (79 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
  • Prifysgol Heidelberg
  • Prifysgol Zurich
  • Prifysgol Bern Edit this on Wikidata
Galwedigaeth hanesydd celf, awdur, cyfieithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Awdur a model Pwylaidd a fu'n byw yn yr Almaen oedd Rosa Schapire (9 Medi 1874 - 1 Chwefror 1954) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel hanesydd celf a chyfieithydd. Roedd yn un o'r cyntaf i gydnabod pwysigrwydd y grŵp o arlunwyr a elwid yn "Die Brücke".

Fe'i ganed yn Brody yng ngorllewin yr Wcráin ond a oedd ar ddydd ei geni yn rhan o'r Ymerodraeth Awstriaidd; bu farw yn Llundain. [1][2][3][4]

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn ferch i ddau Iddew cyfoethog, a chafodd ei haddysgu gan diwtor preifat. Yn 1893, symudodd y teulu i Hamburg. Yn 1897, cyhoeddodd Ein Wort zur Frauenemanzipation (Gair ar Ryddfreinio Menywod). Astudiodd hanes celf, gan dderbyn gradd israddedig o Brifysgol Bern ym 1902 cyn ennill PhD o Brifysgol Heidelberg ym 1904. Dilynodd Schapire astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Leipzig.[5][6]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl iddi ddychwelyd i Hamburg ym 1908, gweithiodd fel cyfieithydd a chyhoeddodd feirniadaeth lenyddol. Cyfieithodd Balzac, Zola a'r hanesydd celf Pwylaidd Kazimierz Chledowski [pl] i'r Almaeneg.

Cynorthwyodd i sefydlu Frauenbund zur Förderung deutscher bildenden Kunst (Cymdeithas y Merched er Hyrwyddo Celfyddyd yr Almaen) yn 1916.[5][6]

Eisteddodd Schapire fel model ar gyfer gwahanol arlunwyr. Gwnaeth Karl Schmidt-Rottluff (o'r grŵp Brücke) sawl portread ohoni gan gynnwys un yn 1919. Peintiodd Walter Gramatté hi ym 1920 ac yn 1924, cyhoeddodd Rosa Schapire gatalog o weithiau graffig Karl Schmidt-Rottluff.[5]

Yn 1939, llwyddodd i ddianc o'r Almaen i Loegr lle cyfrannodd at wahanol gylchgronau celf, fel Architectural Review, Eidos, Connoisseur a Die Weltkunst [Almaeneg]. Bu hefyd yn cynorthwyo Nikolaus Pevsner gyda chasgliad o ddeunydd ar gyfer ei gyfres The Buildings of England.[6][7]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, dynodwr VIAF 274229080, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018Wikidata Q54919 Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html, adalwyd 24 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  2. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html, adalwyd 24 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  3. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html, adalwyd 24 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  4. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html, adalwyd 11 Rhagfyr 2014Wikidata Q36578
  5. 5.0 5.1 5.2 "Schapire, Rosa". Dictionary of Art Historians.
  6. 6.0 6.1 6.2 "Rosa Schapire 1874 – 1954". Encyclopedia. Jewish Women's Archive.
  7. Dr Rosa Shapire, Karl Schmidt-Rottluff, Adalwyd19 Mawrth 2016