Romulus a Remus
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | Gefell, grŵp o gymeriadau chwedlonol ![]() |
Yn cynnwys | Remus, Romulus ![]() |
![]() |
Yn ôl y chwedl, sefydlwyr dinas Rhufain a thrwy estyniad yr Ymerodraeth Rufeinig oedd Romulus a Remus. Gefeilliaid oeddynt, meibion Mars a Rhea Silvia, merch chwedlonol Numitor, brenin Alba Longa. Cafodd yr efeilliaid ifainc eu taflu i Afon Tiber gan Amulius, oedd wedi diorseddu Numitor. Cawsant eu golchi i'r lan a'u magu gan fleiddes. Yn ddiweddarach fe'u darganfuwyd gan fugail a'u mabwysiadu ganddo.
Yn nes ymlaen sefydlasant ddinas Rhufain ar y llecyn lle cawsant eu golchi i'r lan. Cododd Romulus y ddinas ar allt Palatein. Y dyddiad traddodiadol am ei sefydlu ganddo yn y calendr Rhufeinig oedd 21 Ebrill 753 CC. Romulus oedd brenin cyntaf Rhufain.