Rocket Stephenson
Gwedd
| Enghraifft o: | locomotif stêm â thendar |
|---|---|
| Deunydd | pres, haearn, pren pîn, dur |
| Màs | 4.318 tunnell, 3,000 cilogram |
| Gwlad | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Rhan o | Treialon Rainhill, damwain Parkside |
| Lleoliad | Science and Industry Museum |
| Perchennog | Yr Amgueddfa Wyddoniaeth |
| Lled y cledrau | 1435 mm |
| Gweithredwr | Rheilffordd Lerpwl a Manceinion |
| Gwneuthurwr | Robert Stephenson a'i Gwmni |
| Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0grs8 |
Locomotif stêm a ddyluniwyd gan Robert Stephenson ac adeiladwyd gan ei gwmni yn Newcastle upon Tyne yn 1829 oedd Rocket. Y locomotif oedd enillydd Treialon Rainhill, a gynhaliwyd yn Hydref 1829 i ddangos y byddai locomotifau'n ddull effeithiol o symud cerbydau (yn hytrach na pheiriannau ager sefydlog).[1]
Er nad Rocket oedd y locomotif stêm cyntaf o bell ffordd, roedd yn ymgorffori nifer o ddatblygiadau arloesol a oedd ymhell o flaen ei ragflaenwyr. Daeth yn batrymlun ar gyfer y rhan fwyaf o beiriannau stêm yn y 150 mlynedd dilynol.[2]
Ers 2023, mae Rocket wedi'i arddangos yn Amgueddfa Locomotion, Shildon, Swydd Durham.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Carlson, Robert (1969). The Liverpool and Manchester Railway Project 1821–1831. Newton Abbot: David and Charles. tt. 214–5. ISBN 0-7153-4646-6. OCLC 468636235. OL 4538910W.
- ↑ "Rocket locomotive", Science Museum Group; adalwyd 16 Tachwedd 2024
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Rocket locomotive", Science Museum Group