Neidio i'r cynnwys

Treialon Rainhill

Oddi ar Wicipedia
Treialon Rainhill
Enghraifft o'r canlynolcystadleuaeth Edit this on Wikidata
DyddiadHydref 1829 Edit this on Wikidata
LleoliadRainhill Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd Treialon Rainhill yn gystadleuaeth a drefnwyd rhwng 6 a 14 Hydref 1829, i brofi dadl George Stephenson mai locomotifau fyddai'r ffordd orau o bweru Rheilffordd Lerpwl a Manceinion a oedd bron â'i chwblhau ar y pryd. Cynigiwyd deg locomotif, gyda phump ohonynt yn gallu cystadlu, yn mynd ar hyd trac gwastad yn Rainhill, Swydd Gaerhirfryn (Glannau Merswy bellach).

Y cystadleuaeth

[golygu | golygu cod]

Roedd yn rhaid i bob peiriant deithio cwrs o filltir a thri chwarter (2.8 km) bob ffordd, gan gynnwys un rhan o wyth o filltir (200m) ym mhob pen ar gyfer codi'r cyflymder ac ar gyfer stopio'r trên. Felly byddai'r peiriant, gyda'i lwyth, yn teithio milltir a hanner (2.4 km) bob ffordd ar gyflymder uchaf.

Roedd yn rhaid i'r peiriannau gyflawni deg taith, a fyddai'n gyfartal i siwrnai o 35 milltir (56 km), sef y pellter o Lerpwl i Fanceinion, ac roedd yn rhaid i 30 milltir (48 km) o'r rhain fod ar gyflymder llawn. Roedd yn rhaid i'r cyflymder cyfartalog fod o leiaf 10 milltir yr awr (16 km/awr).

Ar ôl hynny, gallai'r peiriannau ail-lenwi â thanwydd a gwneud deg taith ychwanegol, i efelychu'r daith yn ôl.

Y treialon fel y'u darlunwyd yn The Illustrated London News, 1929

Y cystadleuwyr

[golygu | golygu cod]

Cyflwynwyd deg locomotif yn swyddogol ar gyfer y treialon, ond ar y diwrnod y dechreuodd y gystadleuaeth dim ond pump oedd ar gael, sef


Yr enillydd

[golygu | golygu cod]

Locomotif Stephenson, Rocket, oedd yn fuddugol, gan mai dyma'r unig locomotif a oedd yn gallu cwblhau'r treialon. Derbyniodd cyfarwyddwyr Rheilffordd Lerpwl a Manceinion y dylai locomotifau weithredu gwasanaethau ar eu lein newydd, ac enillodd George Stephenson a'i fab Robert gytundeb i gynhyrchu locomotifau ar gyfer y rheilffordd.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Anthony Dawson, The Rainhill Trials (Stroud: Amberley Publishing, 2018)