Richard Vaughan (esgob)
Richard Vaughan | |
---|---|
Ganwyd | c. 1550 Penrhyn Llŷn |
Bu farw | 30 Mawrth 1607 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | Esgob Llundain, esgob |
Tad | Thomas ap Robert Vaughan |
Mam | Catrin ferch Gruffudd John Gruffudd |
Plant | Dorothy Vaughan, Elizabeth Vaughan, Joanna Vaughan |
Clerigwr Cymreig a fu'n Esgob Bangor ac yn ddiweddarach yn Esgob Caer ac Esgob Llundain oedd Richard Vaughan (c.1550 – 30 Mawrth 1607).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed ef yn Nyffryn, Llŷn, yn fab i Thomas ap Robert Fychan. Addysgwyd ef yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, lle graddiodd yn B.A. yn 1574, M.A. yn 1577, a D.D. yn 1589. Daeth yn gaplan i John Aylmer, Esgob Llundain, yna'n rheithor Chipping Ongar o 1578 hyd 1580, Little Canfield yn 1580, Great Dunmow a Moreton yn 1592, a Stanford Rivers yn 1594.
Daeth yn Esgob Bangor yn 1595, yna trosglwyddyd ef i fod yn Esgob Caer yn 1597, ac yna yn Esgob Llundain o 1604 hyd 1607.
Pan oedd yn esgob Caer gwnaeth safiad yn erbyn "gwrthodwyr" Pabyddol; safodd hefyd yn erbyn rhai Piwritaniaid eithafol pan oedd yn esgob Llundain, gan eu tawelu.