Rhodri Molwynog
Gwedd
| Rhodri Molwynog | |
|---|---|
| Ganwyd | 690 Teyrnas Gwynedd |
| Bu farw | 754 |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Gwynedd |
| Galwedigaeth | teyrn |
| Swydd | Brenin Gwynedd |
| Tad | Idwal Iwrch |
| Plant | Cynan Dindaethwy ap Rhodri, Hywel ap Rhodri Molwynog |
Roedd Rhodri ap Idwal (c. 690 – c. 754; teyrnasodd o c. 720), a adwaenir fel Rhodri Molwynog yn frenin Gwynedd.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ychydig o wybodaeth sydd ar gael am Rhodri. Roedd yn fab i Idwal ap Cadwaladr Fendigaid, ac felly o linach Cunedda Wledig. Cofnodir ei farwolaeth yn 754 yn y croniclau fel "Rodri rex brittonum moritur" ("Bu farw Rhodri Brenin y Brythoniaid"). Yn gynnar yn y ganrif nesaf yr oedd ei feibion Cynan Dindaethwy ap Rhodri a Hywel ap Rhodri Molwynog yn ymladd am oruchafiaeth yng Ngwynedd.
Nid oes eglurhad boddhaol o ystyr y gair "Molwynog".
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]| O'i flaen : Idwal Iwrch |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Caradog ap Meirion |