Rhiwlas, Llandderfel
Math | plasty |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9201°N 3.5981°W |
Statws treftadaeth | parc rhestredig neu ardd restredig Gradd II |
Manylion | |
Ystâd tua 1 km (0.62 mi) yw Rhiwlas, sydd i'r gogledd o dref y Bala, Gwynedd. Bu ym meddiant y teulu Price ers dros bedair canrif. Dymchwelwyd Neuadd Rhiwlas, a godwyd yng nghyfnod y Rhaglywiaeth (Regency) yn y 1950au a chodwyd tŷ llai a ddyluniwyd gan Clough Williams-Ellis yn ei le. Fodd bynnag, mae llawer o adeiladau'r stad wedi parhau, ac maent yn adeiladau rhestredig, ac chofrestrwyd gerddi'r neuadd a'r parc (a dirluniwyd gan William Emes), fel Gradd II ar Gofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.
Hanes a phensaernïaeth
[golygu | golygu cod]Fel nodwyd, mae'r teulu Price wedi bod yn berchen ar ystâd y Rhiwlas ers o leiaf y 1540au.[1][2] Roedd Richard John Lloyd Price (1843–1923) yn fabolgampwr nodedig, ac ef a gynhaliodd ymryson cŵn defaid cyntaf gwledydd Prydain yn Rhiwlas yn 1873.[3] Bu farw Robin Price, y 15fed cenhedlaeth o’i deulu i ffermio yn Rhiwlas, yn 2016. Mae'r ystâd yn parhau i fod yn eiddo preifat i'r teulu Price.[4]
Adeilad mawr a godwyd ym 1809 oedd Neuadd Rhiwlas ac fe'i disgrifir gan CBHC fel un "tri llawr a chastellog gyda thyredau", tra bod Cadw'n ei ystyried yn "blasty crwydrol enfawr". Nid yw'r pensaer yn hysbys. Gwnaeth Thomas Rickman rywfaint o waith ar y stâd ar adeg, gan gynnwys y porth, ond nid yw Pevsner yn priodoli’r tŷ iddo.[5] Dymchwelwyd y neuadd yn 1954, ar ôl iddi gael ei haddasu yn ystod y rhyfel a dioddef o lwydni a phydredd sych. Mae’r Neuadd newydd a ddyluniwyd gan Clough Williams-Ellis, yn cael ei ystyried gan Richard Haslam, Julian Orbach ac Adam Voelcker, yn 2009 yng nghyfres Pevsner Buildings of Wales, ymhlith ei waith gorau.[5]
Cynlluniwyd y gerddi gan William Emes ac maent wedi’u dynodi’n Radd II ar Gofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.
Mae nifer o adeiladau ystad hanesyddol wedi goroesi ac wedi'u rhestru, i gyd yn Radd II. Mae'r rhain yn cynnwys y pantri hela, y tŷ rhew, y stablau castellog, y prif borth a muriau'r stad.
|
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Owen, Robert. "Price family, of Rhiwlas, in the parish of Llanfor, Meirionethshire". Dictionary of Welsh Biography. Cyrchwyd 24 February 2023.
- ↑ "Price family, of Rhiwlas". National Library of Wales. Cyrchwyd 24 February 2023.
- ↑ "Historic Landscape Characterisation – Bala and Llyn Tegid Historical Themes". Gwynedd Archaeological Trust. Cyrchwyd 24 February 2023.
- ↑ Forgrave, Andrew (14 March 2016). "Rhiwlas estate owner Robin Price dies aged 69". North Wales Live. Cyrchwyd 24 February 2023.
- ↑ 5.0 5.1 Haslam, Orbach & Voelcker 2009, tt. 654–655.
- Haslam, Richard; Orbach, Julian; Voelcker, Adam (2009). Gwynedd. The Buildings of Wales. New Haven and London: Yale University Press. ISBN 978-0-300-14169-6. OCLC 1023292902.