Rhif 43, Stryt Fawr, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia

Adeilad hanesyddol rhestredig gradd II yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Rhif 43, Stryt Fawr.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae Rhif 43 Stryt Fawr yn sefyll ar gornel Stryt yr Eglwys a Stryt Fawr, yn ardal yr eglwys San Silyn. Mae'n rhan o res o adeiladau hanesyddol gyda chymeriad masnachol ar ochr ddeheuol y Stryt Fawr.

Hanes[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd Rhif 43 Stryt Fawr yn 1896 gan y pensaer JH Swainson. Heddiw mae'r adeilad, sy'n cael ei adnabod fel y Banc Cynilion Ymddiriedolwyr (“Trustee Savings Bank”) [1] , yn cael ei ddefnyddio fel tafarn, sy wedi cadw'r enw “The Bank”.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae Rhif 43 Stryt Fawr yn adeilad tri llawr o dywodfaen coch, gyda thwr bach ar y lefel yr atig. [2]

Mae'r adeilad yn darparu mynedfa drawiadol i Stryt yr Eglwys, ac mae'n rhan o un o olygfeydd mwyaf eiconig Wrecsam, sef yr olygfa tuag at yr eglwys San Silyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2022.
  2. "No 33 (Previously Listed as No 32) High Street (S Side), Clwyd, Offa, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2022.