Rheilffordd Santa Fe Southern

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Locomotif y rheilffordd yn Santa Fe
Rheilffordd Santa Fe Southern
Santa Fe Southern Locomotive.jpg
Mathcwmni rheilffordd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAtchison, Topeka and Santa Fe Railway Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1992 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSanta Fe County Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
PerchnogaethGeorge R. R. Martin, Bill Banowsky Edit this on Wikidata

Mae Rheilffordd Santa Fe Southern yn rheilffordd fer yn New Mexico, Yr Unol Daleithiau. Yn ogystal a chario nwyddau, mae o wedi bod yn rheilffordd dreftadaeth yn achlysurol, yn cario teithwyr rhwng Lamy a Santa Fe, tua 18 milltir.[1]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Prynwyd cangen Lamy-Santa Fe y Rheilffordd Atchison, Topeka and Santa Fe gan ddynion busnes lleol, a dechreuodd gwasanaeth nwyddau ym 1992. Ychwanegwyd y wasanaeth i deithwyr yn hwyrach ymlaen.[2] Prynwyd y rheilffordd ar 8 Hydref 2010 gan STI-Global, Cyf., cwmni o Awstralia er mwyn profi eu systemau diogelwch.[3]

Roedd rhaid i’r cwmni adael ei phencadlys yn Nepo Santa Fe er mwyn creu canolfan ymwelwyr ar gyfer teithwyr New Mexico Rail Runner[4]

Trafferthion cyllidol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cariodd y rheilffordd 401 wagonau o nwyddau yn 2004, a 25,907 teithiwr yn 2007, ond erbyn 2009, dim ond 25 wagon a 12,208 teithiwr[5]. Newidiwyd ei threfn yn 2 drên cymysg yn wythnosol.[6]. Ar 23 Mai 23, 2013, datganodd cadeirydd y rheilffordd bod o wedi cael gwared o’r gweithwyr llawn amser i gyd, a llawer o’i gweithwyr tymhorol. Nid oedd trenau yn 2013.[7]

Ar 24 Ebrill, 2014, datganwyd bod y rheilffordd a’r Las Vegas Railway Express wedi cytuno i redeg trenau ar gyfer twristiaid dros yr haf. Buasai LVRE yn rhoi cyllid i adfer y rheilffordd, a buasai’r Santa Fe Southern yn rhedeg y trenau.[8] Ar 26 Medi 2014 penderfynwyd LVRE i roi stop i’r wasanaeth ar 29 Medi.[9] Terfynwyd trenau nwyddau hefyd, ond rhedwyd trenau siarter preifat.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]