George R. R. Martin
George R. R. Martin | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
George Raymond Richard Martin ![]() 20 Medi 1948 ![]() Bayonne ![]() |
Man preswyl |
Santa Fe ![]() |
Dinasyddiaeth |
Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
Sgriptiwr, Ysgrifennwr, cynhyrchydd teledu, nofelydd, Dramodydd, blogiwr, awdur ffuglen wyddonol, rhyddieithwr, golygydd cyfrannog ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am |
A Song of Ice and Fire, A Song for Lya, The Armageddon Rag, Dying of the Light ![]() |
Gwaith nodedig |
A Song of Ice and Fire, A Song for Lya, The Armageddon Rag, Dying of the Light ![]() |
Arddull |
high fantasy, Ffantasi ![]() |
Prif ddylanwad |
William Faulkner ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Plaid Ddemocrataidd ![]() |
Gwobr/au |
Gwobr Nebula am Nofelig Orau, Hugo Award for Best Novelette, Gwobr Hugo am y Nofel Fer Orau, Gwobr Hugo am y Stori Fer Orau, Gwobr Nebula am Nofelig Orau, Seiun Award for Best Translated Short Story, Locus Award for Best Collection, Locus Award for Best Collection, Locus Award for Best Novelette, Locus Award for Best Novella, Locus Award for Best Short Story, Locus Award for Best Novella, Locus Award for Best Novelette, Locus Award for Best Novelette, Gwobr Locus am y nofel Ffantasi Orau, Gwobr Locus am y nofel Ffantasi Orau, Gwobr Locus am y nofel Ffantasi Orau, Gwobr Locus am y nofel Ffantasi Orau, Gwobr Hugo am y Nofel Fer Orau, Premio Gigamesh ![]() |
Gwefan |
http://www.georgerrmartin.com/ ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Nofelydd nofelau ffantasi, awdur straeon byrion, sgriptiwr a chynhyrchydd teledu o Americanwr yw George Raymond Richard Martin[1] (ganwyd 20 Medi 1948). Ei gampwaith yw A Song of Ice and Fire, cyfres o nofelau ffantasi epig a addaswyd gan Home Box Office (neu HBO) yn rhaglen deledu, Game of Thrones. Mae Martin yn gyd-gynhyrchydd y rhaglen honno ac yn sgriptio un bennod i bob cyfres o'r rhaglen.
Cafodd ei enwi'n George Raymond Martin a chyfeirir ato'n aml fel GRRM.[2]
Yn 2005 galwodd yr awdur Lev Grossman ef "y Tolkien Americanaidd."[3] ac ychydig yn ddiweddarach galwodd y cylchgrawn ef yn "un o gant person mwyaf dylanwadol y byd."[4][5]
Y dyddiau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Dewisiodd a mabwysiadodd yr enw canol 'Richard' pan oedd yn 13 oed.[6] Roedd yn fab i'r hanner-Eidalwr Raymond Collins Martin a'i wraig Margaret Brady Martin, a oedd yn hanner-Gwyddeles. Roedd ganddo ddwy chwaer, Darleen a Janet.[7] ac roedd gan y teulu berthnasau oedd yn hannu o'r Almaen, Lloegr a Ffrainc.
Mae'n debyg iddo gychwyn darllen gan nad oedd y teulu wedi teithio rhyw lawer, a darllenai'n eang am wledydd y byd. Dechreuodd sgwennu'n ifanc iawn a gwerthodd storiau i blant pan oedd yn arddegwr.
Derbyniod radd mewn newyddiaduriaeth o Brifysgol Northwestern, Illinois yn 1970 a gradd Meistr yn yr un pwnc a choleg yn 1971.
Cofrestrodd fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod Rhyfel Fietnam.[8] gan weithio'n wirfoddol rhwng 1972–1974.
Mae'n chwaraewr gwyddbwyll arbennig o dda a chyfarwyddodd gemau'r Gymdeithas Wyddbwyll Gyfandirol rhwng 1973 a 1976.
Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod y dudalen]
- A Song of Ice and Fire
- A Game of Thrones (1996)
- A Clash of Kings (1998)
- A Storm of Swords (2000)
- A Feast for Crows (2005)
- A Dance with Dragons (2011)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Richards, Linda (Ionawr 2001). "January interview: George R.R. Martin". januarymagazine.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Ebrill 2012. http://januarymagazine.com/profiles/grrmartin.html. Adalwyd 21 Ionawr 2012.
- ↑ "Interview – George R. R. Martin – January Magazine". http://www.januarymagazine.com/profiles/grrmartin.html. Adalwyd 30 Hydref 2014.
- ↑ Grossman, Lev (13 Tachwedd 2005). "Books: The American Tolkien". Time. Archifwyd o y gwreiddiol ar 29 Rhagfyr 2008. https://web.archive.org/web/20081229125934/http://www.time.com/time/magazine/article/0,9171,1129596,00.html. Adalwyd 2 Awst 2014.
- ↑ The 2011 TIME 100: George R.R. Martin, John Hodgman, 21 Ebrill 2011
- ↑ The 2011 TIME 100: Full List Adalweyd 5 Mehefin 2011
- ↑ "Author George R.R. Martin Is Visiting Texas A&M, Talks ‘Game of Thrones' and Texas A&M Libraries". TAMUTimes (Texas A&M University). 22 Mawrth 2013. http://tamutimes.tamu.edu/2013/03/22/author-george-r-r-martin-is-visiting-texas-am-talks-game-of-thrones-and-texas-am-libraries/.
- ↑ Martin, George R. R. (Hydref 2004). "The Heart of a Small Boy". Asimov's Science Fiction. http://www.asimovs.com/_issue_0410/theheartofasmall.shtml. Adalwyd 28 Mawrth 2014.
- ↑ "George Stroumboulopoulos Tonight, interview with Martin". George Stroumboulopoulos Tonight (CBC.ca). 14 Mawrth 2012. http://www.cbc.ca/video/#/Shows/George_Stroumboulopoulos_Tonight/1595682788/ID=2209994735. Adalwyd 15 Mawrth 2012.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol
- (Saesneg) George R. R. Martin ar wefan Internet Movie Database
|
|