Rhagddodiad

Oddi ar Wicipedia
Erthygl am y term ieithyddol yw hon; gweler hefyd Rhagddodiad SI.

Mewn ieithyddiaeth, morffem sy'n rhagflaenu'r gwreiddyn i fynegi ystyr gramadegol neu darddiadol yw rhagddodiad. Fel yn achos y dodiaid eraill, ni all rhagdodiaid sefyll ar eu pennau eu hunain. Maen nhw felly yn forffemau clymedig.

Ceir rhagddodiad mewn sawl iaith. Enghraifft o'r rhagddodiad yn y Gymraeg yw'r rhagddodiad negyddol an- (e.e. mewn anwybodus, annuwiol, angharedig). Enghraifft arall yw di- (e.e. mewn di-Gymraeg). Mae rhai rhagddodiaid eraill yn cryfhau'r ystyr, megis ad- (e.e. ad-drefnu), cyf- (e.e. cyfieithu, cyfweliad) a tra- (e.e. traserch, traffordd).[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Morgan D. Jones, Termau Iaith a Llên (Gwasg Gomer).
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.