Dodiad

Oddi ar Wicipedia

Mewn ieithyddiaeth, morffem a ychwanegir at wreiddyn i fynegi ystyr gramadegol neu darddiadol yw dodiad. Ni all dodiaid sefyll ar eu pennau eu hunain. Maen nhw felly yn forffemau clymedig. Mae dodiaid yn rhannu'n dri math o leiaf yn ôl eu safle mewn perthynas â'r gwreiddyn:

  • rhagddodiaid, sy'n rhagflaenu'r gwreiddyn, megis Cymraeg an- (mewn anwybodus) neu di- (mewn di-Gymraeg)
  • olddodiaid, sy'n dilyn y gwreiddyn, megis Cymraeg -gar (mewn hawddgar) neu -odd (mewn gwelodd)
  • mewnddodiaid, sy'n digwydd y tu mewn i'r gwreiddyn, megis Tagalog -um- 'amser gorffennol' mewn kumanta 'canodd' (cymharer kanta 'canu').