Olddodiad
Gwedd
- Erthygl am y term ieithyddol yw hon; gweler hefyd Olddodiad rhyngrwyd.
Mewn ieithyddiaeth, morffem sy'n dilyn y gwreiddyn i fynegi ystyr gramadegol neu darddiadol yw olddodiad. Fel yn achos y dodiaid eraill, ni all olddodiaid sefyll ar eu pennau eu hunain. Maen nhw felly yn forffemau clymedig.
Ceir olddodiaid mewn sawl iaith. Enghraifft o'r olddodiad yn y Gymraeg yw -gar (mewn hawddgar) neu -odd (mewn gwelodd).[1]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Morgan D. Jones, Termau Iaith a Llên (Gwasg Gomer).