Renia Spiegel

Oddi ar Wicipedia
Renia Spiegel
Ganwyd18 Mehefin 1924 Edit this on Wikidata
Uhrynkivtsi Edit this on Wikidata
Bu farw30 Gorffennaf 1942, 25 Mehefin 1942 Edit this on Wikidata
Przemyśl Edit this on Wikidata
Galwedigaethawdur, dyddiadurwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.reniaspiegelfoundation.org/ Edit this on Wikidata

Awdur dyddiadur a barddoniaeth o gyfnod yr Holocost oedd Renia Spiegel (18 Mehefin 192430 Gorffennaf 1942). Fe'i ganwyd yn ferch i Rose a Bernard Spiegel ac yn chwaer hŷn i Ariana yn Uhryńkowcach yr hyn a oedd ar y pryd ardal (powiat) o fewn talaith Ternopil, bellach sy'n rhan o'r Wcrain ac fe'i elwir yn Uhrynkivtsi. Fe fu farw'n ifanc, newydd droi ei phenblwydd yn 18 mlwydd yng nghetto Przemysl oherwydd ei thras Iddewig. Roedd wedi ysgrifennu dyddiadur a oedd yn cynnwys barddoniaeth ymysg adroddiadau eraill o'i bywyd o fewn y ghetto'n ystod cyfnod yr Holocost.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Cafodd ei magu yn Uhryńkowcach lle roedd ei thad yn dir feddiannwr. Bu i'w chwaer iau Arianna, dyfu i fod yn actores yn ystod yr ugain mlynedd rhwng y rhyfeloedd, ac fe'i gelwir gan y wasg yn "y Shirley Temple o Wlad Pwyl". Ym mis Ionawr 1939, aeth Renia i fyw gyda'i nain a'i thaid yn Przemysl, lle bu'n ddisgybl yn yr ysgol i ferched y dref sef Ysgol Marii Konopnickiej, a bu'n cyhoeddi ei barddoniaeth ym mhapur newydd yr ysgol.

Dechreuodd ysgrifennu ei dyddiadur ar 31 Ionawr 1939 a oedd erbyn ei ddiwedd wedi cyrraedd bron i 700 tudalen o hyd. Yn dilyn Rhyfel Amddiffynnol 1939 (Wojna obronna 1939 roku) a'r  ymosodiad Sofietaidd ar Wlad Pwyl ym mis Medi 1939. Arhosodd Renia Spiegel ac Ariana'n y dref, a oedd yn o fewn y ffiniau  parth tiriogaeth yr Undeb Sofietaidd a oedd wedi ei gytuno gan yr Almaen â'r Undeb Sofietaidd yng Nghytundeb Ffiniau Almaenig-Sofietaidd 06.10.39. Yn dilyn ymddygiad ymosodol y drydedd Reich ar yr Undeb Sofietaidd a gorchfygaeth gyfan y Natsïaid o Przemysla, fe orfodwyd Renia a holl Iddewon yr ardal i symud i ghetto o fewn y dref. Fe saethwyd Renia Spiegel yn farw gan y Natsïaid yn y ghetto ddyddiau'n unig ar ôl cyrraedd ei phenblwydd yn ddeunaw oed ar 30 Gorffennaf 1942.[2]

Coffâd[golygu | golygu cod]

Yn 2015, cychwynnodd Elizabeth Bellak (Ariana) sefydliad a enwyd ar ôl ei chwaer sef Sefydliad Renee Spiegel[3], ac yn yr un flwyddyn trefnwyd gan y sefydliad i gael y cystadleuaeth barddoniaeth. Mae  Sefydlaid Renee Spiegel ar gyfer annog pobl ifanc hyd at 20 oed o amgylch y byd i farddoni yn yr iaith Bwyleg.[4] Cyhoeddwyd  rhifyn cyntaf o ddyddiadur Reina Spiegel ym Mhwyleg ym Mehefin 2016. Mae cynlluniau ar y gweill i wneud ffilm am Renia ac Ariana Spiegel gan Tomas Magierskiego, sef awdur y sgript, Dyddiadur Renia Spiegel a chyfarwyddir gan Barbara Płocice. Datgannwyd y cynlluniau fel rhan o'r 8fed Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Cofio o Dioddefwyr yr Holocost yn y Carpathians,[5] yn ogystal ag yn y Teatrze Kamienica w Warszawie ar 14 Medi 2016.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Anne Frank
  • Hana Goldszajd
  • Rutka Laskier
  • David Rubinowicz

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Sefydliad Renia Spiegel. Renia Spiegel Foundation (23 Hydref 2017).
  2. "Zginęła tuż po 18 urodzinach. Jej pamiętnik po 76 latach odkrywa tajemnice".
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2018-11-11.
  4. "Konkurs Poetycki im. Reni Spiegel dla młodzieży polskojęzycznej z całego świata". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-23. Cyrchwyd 2018-11-11.
  5. "VIII Obchody Międzynarodowego Dnia Pamięci o Ofiarach Holokaustu na Podkarpaciu". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2018-11-11.