Marii Konopnickiej

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Marii Konopnickiej
Maria Konopnicka001.jpg
Ffugenw Jan Sawa Edit this on Wikidata
Ganwyd 23 Mai 1842 Edit this on Wikidata
Suwałki Edit this on Wikidata
Bu farw 8 Hydref 1910 Edit this on Wikidata (68 oed)
Lviv Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl
Galwedigaeth Bardd, Ysgrifennwr, awdur ysgrifau, awdur plant, beirniad llenyddol, cyfieithydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Mendel Gdański, Pan Balcer w Brazylii, Rota, O krasnoludkach i sierotce Marysi Edit this on Wikidata

Roedd Maria Konopnicka, née Wasiłowska (23 Mai 18428 Hydref 1910), yn fardd, nofelydd, awdures plant, cyfieithydd, newyddiadurwraig, yn feirniad, ac ymgyrchydd dros hawliau menywod ac ar gyfer annibyniaeth Pwyleg. Roedd  hi'n defnyddio ffugenwau, gan gynnwys Jan Sawa, ac yn un o feirdd pwysicafg o Wlad Pwyl yn ystod Cyfnod Positivist y wlad.[1][2]

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Konopnicka yn Suwałki ar 23 Mai 1842. Roedd ei thad, Jozef Wasiłowski, yn gyfreithiwr.[3]  Cafodd ei haddysgu gartref a threuliodd flwyddyn (1855-56) mewn lleiandy pensiwn y Chwiorydd o Addoliad Ewcharistaidd yn Warsaw (Zespół klasztorny sakramentek w Warszawie).[4]

Konopnicka, gan Maria Dulębianka, 1902

Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf fel awdur yn 1870 gyda'r gerdd "W zimowy poranek" ("Ar Fore Gaeaf "). Ennillodd boblogrwydd ar ôl cyhoeddiad ei cherdd "W górach" ("Yn y Mynyddoedd"), yn 1876 a canmolwyd gan y dyfodol-enillydd gwobr Nobel Henryk Sienkiewicz.[5][6]

Yn 1862 bu iddi briodi Jarosław Konopnicki ac fu iddynt gael chwech o blant.[7] Doedd eu priodas ddim yn un hapus,[8] gan fod ei gŵr yn anghymeradwyo'i gyrfa mewn ysgrifennu. Mewn llythyr i ffrind, bu iddi ddisgrifio'i hun fel "bod heb deulu" ac fel "aderen wedi'i gloi mewn cell". Yn y pen draw yn 1878, bu iddynt wahanu'n answyddogol, gadawodd hi ei gwr, a symudodd i Warsaw i fynd ar drywydd ysgrifennu ac aeth â'i phlant gyda hi.[9] Byddai'n aml yn teithio'n Ewrop; ei thaith fawr gyntaf oedd i'r Eidal yn 1883. Treuliodd y blynyddoedd 1890-1903 yn byw dramor yn Ewrop.[10]

Mae ei bywyd wedi cael ei ddisgrifio fel "cythryblus", gan gynnwys rhamant allbriodasol, marwolaeth, a salwch meddwl yn y teulu. Roedd hi'n ffrind i gyd-fardd  Cyfnod Positivist, Eliza Orzeszkowa,[11] ac i'r arlunydd ac ymgyrchydd Maria Dulębianka (gyda phwy y buo hi'n byw, o bosibl mewn perthynas rhamantus).[12] Mae awgrym yr oedd hi'n ddeurywiol neu lesbiaidd (yn enwedig mewn cyd-destyn â Dulębianka)[13], ond nid yw hyn wedi cael ei ymchilio'n bwrpasol, ac nid yw'r  cwestiwn fel arfer yn cael ei grybwyll mewn bywgraffiadau o Konopnicka.[14][15][16][17]

Cartref chef gwlad Konopnicka, sydd bellach yn amgueddfa, yn Żarnowiec.

Yn ogystal â bod yn awdures weithgar, roedd hi hefyd yn wreithedwr cymdeithasol, yn cymeryd rhan a threfnu  protestiadau yn erbyn gormes ethnig (yn  bennaf y Pwyliaid) a lleiafrifoedd crefyddol yn Prwsia. Roedd hi hefyd yn ymwneud â gweithredaeth hawliau merched.[18]

Ennillodd ei gwaith llenyddol gydnabyddiaeth eang yng Ngwlad Pwyl yn ystod yr 1880au. Ym 1884 dechreuodd ysgrifennu llenyddiaeth plant, ac yn 1888 dechreuodd fel oedolyn-lenor gyda Cztery nowele (Pedwar Stori Byrr). O ganlyniad i boblogrwydd cynyddol ei hysgrifau, yn 1902 bu i nifer o ymgyrchwyr Pwyleg  benderfynu ei gwobrwyo gan brynu  maenordy iddi. Fe'i  brynnwyd gydag arian a gasglwyd gan nifer o sefydliadau a gweithredwyr. Am and oedd Gwlad Pwyl yn annibynnol ar y pryd, ac am nad oedd yn ei hysgrifau yn wleidyddol anghydnaws i Prwsia ac awdurdodau Rwsia, roedd y lleoliad a ddewiswyd yn fwy goddefgar i  ranniad Awstriaidd cyn-Rhaniad Gwlad Pwyl. Yn 1903 derbyniodd faerdy yn Żarnowiec, lle y bu iddi gyrraedd ar 8fed o Fedi.[19] Treuliai'r rhan fwyaf o wanwynnau a hafau yno, ond mi fyddai hi'n dal i deithio Ewrop yn ystodyr hydref â'r gaeaf.

Bu hi farw yn Lwów (sydd bellach yn Lviv, yr Wcrain) ar 8 Hydref 1910. Cafodd ei chladdu yno ym mynwent Łyczakowski Cmentarz.

Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Konopnicka, gan Maria Dulębianka, 1910

Ysgrifennodd Konopnicka  rhyddiaith (yn bennaf y stori fer) yn ogystal â cherddi.[20] Un o'i harddulliau  mwyaf nodweddiadol oedd cerddi fel caneuon gwerin. Byddai'n ceisio ei llaw mewn llawer o arddulliau llenyddiaeth, megis croniclo brasluniau, naratif atgofion, astudiaethau portreadau seicolegol ymysg eraill.

Mae thema gyffredin yn ei gwaith yn cynnwys gormes a thlodi'r  werin, y gweithwyr a'r Iddewon Pwyleg. Mae ei gwaith hefyd yn hynod gwladgarol a cenedlaetholgar. Oherwydd ei chydymdeimlad â phobl Iddewig fe'i  ddisgrifwyd fel Iddew-garwr.[21][22]

Un o'i gwaith mwyaf adnabyddus yw'r epig hir mewn chwe cantos, Mister Balcer ym Mrasil (Pan Balcer w Brazylii, 1910), ar yr ymfudwyr Pwyleg ym Mrasil. Un arall oedd Rota (Oath, 1908) a osodwyd i gerddoriaeth gan Feliks Nowowiejski ddwy flynedd yn ddiweddarach a ddaeth yn  anthem answyddogol  Glad Pwyl, yn enwedig yn nhiriogaethau'r Rhaniad Prwsiaidd. Roedd y gerdd wladgarol hon yn feirniadol iawn o'r polisïau Almaenaeddiog ac felly yn caed ei ddisgrifio'n gwrth-almaeneg.[23][24]

Ei gwaith mwyaf enwog o'i llenyddiaeth plant yw'r O krasonoludkach i sierotce  Marysi (Mair Fach Amddifad a'r Corachod), 1896. Fe dderbynwyd ei llenyddiaeth plant yn dda, o gymharu â llawer o waith arall y cyfnod.

Cyfansoddodd Maria Konopnicka gywydd am ddienyddiad y gwladgarwr Gwyddelig, Robert Emmet. Cafodd Emmet ei ddienyddio gan yr awdurdodau Prydeinig yn Nulyn yn 1803, ond cyhoeddwyd Konopnicka ei cherdd ar y testun yn 1908.[25]

Roedd hi hefyd yn cyfieithydd. Mae ei gwaith cyfeithiedig yn cynnwys gwaith Ada Negri Fatalita a Tempeste, a gyhoeddwyd yng Ngwlad Pwyl yn 1901.[26]

Cofebion[golygu | golygu cod y dudalen]

Bedd Konopnicka yn Lviv
Cerflun o Konopnicka yn yr Ardd Sacsonaidd , Warsaw

Mae maerdy Kononpnicka yn Żarnowiec wedi ei drawsnewid yn amgueddfa, fe'i agorwyd yn 1957 ac ei enw yw Amgueddfa Maria Konopnicka yn Żarnowiec (Muzeum Marii Konopnickiej w Żarnowcu). Agorwyd ail amgueddfa yn Suwałki yn 1973.[27]

Mae nifer o ysgolion a sefydliadau eraill, gan gynnwys nifer o strydoedd a sgwariau cyhoeddus, yn dwyn ei henw yn Ngwlad Pwyl. Fe enwyd llong i Llynges Fasnachol Pwyleg y MS Maria Konopnicka ei henwi ar ei hôl. Mae nifer o blaciau a henebion iddi wedi eu hadeiladu. Un o'r mwyaf diweddar  yw cofeb yn Suwałki  a adeiladwyd yn 2010.[28] Hefyd, mae ceudwll ar y blaned Gwener wedi ei henwi ar ei hôl yn 1994.[29]

Pigion o'i gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Barddoniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Linie rwy'n dźwięki (Llinellau a Synau, 1897)
  • Śpiewnik historyczny (Llyfr Cerddoriaeth Hanesyddol, 1904)
  • Głosy ciszy (Synau o Dawelwch, 1906)
  • Z liryk rwy'n obrazków (Geiriau a Lluniau, 1909)
  • Pan Balcer w Brazylii (Mister Balcer ym Mrasil, 1910)

Rhyddiaith[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cztery nowele (Pedair Stori Fer, 1888).
  • Moi znajomi (Bobl yr wyf yn Gwybod, 1890).
  • Na drodze (Ar y Ffordd, 1893).
  • Ludzie rwy'n rzeczy (Pobl a Phethau, 1898).
  • Mendel Gdański.

Plant[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Śpiewnik dla dzieci (Llyfr Caneuon ar gyfer Plant).
  • O Janku Wędrowniczku (Am Janku'r Crwydryn).
  • O krasnoludkach i sierotce Marysi (Am y Corrach a Mair Bach Amddifad).
  • Na jagody (Casglu Llus).

Cerddi[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rota (Llw, 1908).
  • Stefek Burczymucha.
  • Wolny najmita (Y Labrwr-Dydd Rhydd).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Yitzhak Zuckerman (1993). A surplus of memory: chronicle of the Warshaw Ghetto uprising. University of California Press. p. 501. ISBN 978-0-520-91259-5. Cyrchwyd 14 May 2013.
  2. Richard Frucht (2005). Eastern Europe: an introduction to the people, lands, and culture. ABC-CLIO. p. 49. ISBN 978-1-57607-800-6. Cyrchwyd 14 May 2013.
  3. Stanley S. Sokol (1992). The Polish Biographical Dictionary: Profiles of Nearly 900 Poles who Have Made Lasting Contributions to World Civilization. Bolchazy-Carducci Publishers. p. 197. ISBN 978-0-86516-245-7. Cyrchwyd 13 May 2013.
  4. Zofia Bogusławska (1961). Literatura okresu pozytywizmu i realizmu krytycznego: antologia i opracowanie dla klasy X. Państwowe Zaklady Wydawn. Szkolnych. p. 183. Cyrchwyd 14 May 2013.
  5. Marek Adamiec (1910-10-08). "Maria Konopnicka". Literat.ug.edu.pl. Cyrchwyd 2013-05-14.
  6. Anita Kłos. "On Maria Konopicka's Translation of Ada Negri's Fatalita and Tempeste". In Magda Heydel (gol,.). Przekładaniec, 2 (2010) vol 24 – English Version. Wydawnictwo UJ. p. 112. ISBN 978-83-233-8669-8. Cyrchwyd 14 May 2013.
  7. Maria Szypowska (1990). Konopnicka jakiej nie znamy. Wydawn. Spółdzielcze. p. 82. ISBN 978-83-209-0761-2. Cyrchwyd 14 May 2013.
  8. Maria Konopnicka. Korespondencja. Zakład Narodowy im. Ossolińskich. p. 391. Cyrchwyd 14 May 2013.
  9. Jan Baculewski (1978). Maria Konopnicka: materiały. Wydawn. Szkolne i Pedagogiczne. p. 406. Cyrchwyd 14 May 2013.
  10. "Muzeum Marii Konopnickiej w Żarnowcu – Historia Muzeum". Muzeumzarnowiec.pl. Cyrchwyd 2013-05-14.
  11. Keely Stauter-Halsted (2004). The Nation In The Village: The Genesis Of Peasant National Identity In Austrian Poland, 1848–1914. Cornell University Press. p. 112. ISBN 978-0-8014-8996-9. Cyrchwyd 14 May 2013.
  12. Ahmet Ersoy; Macie J. Gorny; Vangelis Kechriotis (30 October 2010). Modernism: The Creation of Nation States. Central European University Press. p. 131. ISBN 978-963-7326-61-5. Cyrchwyd 14 May 2013.
  13. Czas kultury. Obserwator. 2008. p. 174. Cyrchwyd 14 May 2013.
  14. Maria Szyszkowska; Remigiusz Grzela (2001). Rozmowy z Marią Szyszkowską: 1997–2001. Matrix. p. 39. ISBN 978-83-914145-1-4. Cyrchwyd 14 May 2013.
  15. "Wielcy i niezapomniani: Maria Konopnicka – Artykuły". queer.pl. 2006-11-16. Cyrchwyd 2013-05-14.
  16. Wojciech Wencel. "Wencel gordyjski – Homo wiadomo – WPROST". Wprost.pl. Cyrchwyd 2013-05-14.
  17. Marzena Chińcz (2006). Lesbijki w życiu społeczno-politycznym. Fundacja Lorga. p. 36. ISBN 978-83-923554-0-3. Cyrchwyd 14 May 2013.
  18. Sylvia Paletschek; Bianka Pietrow-Ennker (2004). Women's emancipation movements in the nineteenth century: a European perspective. Stanford University Press. p. 214. ISBN 978-0-8047-6707-1. Cyrchwyd 15 May 2013.
  19. Longina Jakubowska (2012). Patrons of History: Nobility, Capital and Political Transitions in Poland. Ashgate Publishing, Ltd. p. 141. ISBN 978-1-4094-5663-6. Cyrchwyd 14 May 2013.
  20. Stephen Cushman; Clare Cavanagh; Jahan Ramazani; Paul Rouzer (26 August 2012). The Princeton Encyclopedia of Poetry and Poetics: Fourth Edition. Princeton University Press. p. 1075. ISBN 978-1-4008-4142-4. Cyrchwyd 14 May 2013.
  21. Mieczyslaw B. Biskupski (2000). The history of Poland. Greenwood Publishing Group. p. 34. ISBN 978-0-313-30571-9. Cyrchwyd 14 May 2013.
  22. Anita Kłos. "On Maria Konopicka's Translation of Ada Negri's Fatalita and Tempeste". In Magda Heydel (gol,.). Przekładaniec, 2 (2010) vol 24 – English Version. Wydawnictwo UJ. p. 113. ISBN 978-83-233-8669-8. Cyrchwyd 14 May 2013.
  23. Ilya Prizel (13 August 1998). National Identity and Foreign Policy: Nationalism and Leadership in Poland, Russia and Ukraine. Cambridge University Press. p. 113. ISBN 978-0-521-57697-0. Cyrchwyd 14 May 2013.
  24. Tomasz Kamusella (2007). Silesia and Central European Nationalismus: the emergence of national and ethnic groups in Prussian Silesia and Austrian Silesia, 1848–1918. Purdue University Press. p. 170. ISBN 978-1-55753-371-5. Cyrchwyd 14 May 2013.
  25. Gerry Oates (2003). "Maria Konopnicka agus Robert Emmet". Seanchas Ardmhacha: Journal of the Armagh Diocesan Historical Society 19 (2): 136–139. JSTOR 25746924.
  26. Anita Kłos. "On Maria Konopicka's Translation of Ada Negri's Fatalita and Tempeste". In Magda Heydel (gol,.). Przekładaniec, 2 (2010) vol 24 – English Version. Wydawnictwo UJ. p. 110. ISBN 978-83-233-8669-8. Cyrchwyd 14 May 2013.
  27. "Muzeum im. Marii Konopnickiej w Suwałkach". Muzeum.suwalki.info. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2008-05-07. Cyrchwyd 2013-05-14.
  28. "Suwałki: odsłonięto pomnik Marii Konopnickiej". M.onet.pl. 2010-10-08. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2013-04-13. Cyrchwyd 2013-05-14.
  29. "Planetary Names: Crater, craters: Konopnicka on Venus". Planetarynames.wr.usgs.gov. Cyrchwyd 2013-05-14.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Brodzka, Alina. Maria Konopnicka, "Wiedza Powszechna", Warszawa, 1975.
  • Baculewski, Ion. Śladami życia rwy'n twórczości Marii Konopnickiej, Ludowa Spółdzielnia Wydawnicza, Warszawa, 1966.
  • G. Borkowska, Ruchliwa fala (Maria Konopnicka rwy'n kwestia kobieca), [:] Maria Konopnicka. Głosy o życiu rwy'n pisarstwie w 150-lecie urodzin. Warszawa 1992