Remsen, Efrog Newydd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Remsen, Efrog Newydd
Math village in the United States Edit this on Wikidata
Poblogaeth 508 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Swydd Oneida Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd 0.964297 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 361 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 43.3275°N 75.1867°W Edit this on Wikidata
Cod post 13438 Edit this on Wikidata

Tref fechan yn nhalaith Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau (UDA) a "phentref" o'r un enw o fewn y dref honno yw Remsen. Poblogaeth y dref: 1,958 (2000). Poblogaeth y pentref: 531 (2000). Mae'n gorwedd yn Swydd Oneida ger Utica, Efrog Newydd, bron yng nghanol y dalaith.

Baner Remsen — a Chymru!

Sefydlwyd pentref neu gymuned Remsen gan fewnfudwyr o Gymru tua 1796. Cafodd ei ymgorffori fel cymuned yn 1845 ac erbyn heddiw mae'n gymuned ("pentref" Americanaidd) o fewn y dref a dyfodd o'i gwmpas. Mae gan bentref Remsen eglwys hanesyddol, Capel Cerrig, sy'n eiddo i Gymdeithas Hanes Remsen-Steuben. Mae Remsen mor falch o'i wreiddiau Cymreig fel ei fod yn ddefnyddio'r Ddraig Goch fel ei faner swyddogol.

Pan ymfudodd y cerflunydd Dafydd Richards o Feirionnydd i'r Unol Daleithiau treuliodd ei ddwy flynedd gyntaf yn y wlad honno yn gweithio fel gwas fferm ac wedyn yn iard gerrig Cymro yn Remsen. Dyna lle dechreuodd wneud delwau mewn clai a marmor a enillodd iddo wobrau mewn arddangosfeydd lleol. Symudodd i fyw yn Ninas Efrog Newydd lle agorodd stiwdio gyda chefnogaeth y dyngarwr Peter Cooper a'r miliwnydd Americanaidd-Gymreig Owen Jones a daeth yn un o gerflunwyr mawr y cyfnod.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]