Dafydd Richards

Oddi ar Wicipedia
Dafydd Richards
Ganwyd1829 Edit this on Wikidata
Bu farw1897 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerflunydd Edit this on Wikidata

Cerflunydd o Gymro oedd Dafydd Richards (18291897[1]), a wnaeth enw mawr iddo'i hun fel artist yn yr Unol Daleithiau yn ail hanner y 19eg ganrif lle roedd yn cael ei adnabod fel David Richards.

Ganed Dafydd Richards ym Meiriafael Uchaf ger Llyn Myngul (neu Lyn Tal-y-Llyn), yn agos i Abergynolwyn, Meirionnydd yn y flwyddyn 1829. Bu farw ei dad pan oedd yn ifanc iawn ac aeth i fyw gyda theulu ei ewythr yn Abergynolwyn. Bu'n gweithio yn ffermydd y fro a dysgodd gan ei ewythr y grefft draddodiadol o gerfio llwyau pren a chelfi eraill.[2]

Yn 19 oed, fel nifer o'i gydwladwyr yn y cyfnod hwnnw, ymfudodd o Gymru i'r Unol Daleithiau i geisio bywyd gwell. Ar ôl cyfnod fel gwas fferm cafodd waith yn iard gerrig Cymro yn Remsen, Efrog Newydd a dechreuodd wneud delwau mewn clai a marmor a enillodd iddo wobrau mewn arddangosfeydd lleol. Symudodd i fyw yn Ninas Efrog Newydd lle agorodd stiwdio gyda chefnogaeth y dyngarwr Peter Cooper a'r miliwnydd Americanaidd-Gymreig Owen Jones.[angen ffynhonnell]

Cafodd yrfa hir a llwyddianus. Cerfiodd bortreadau pen-ac-ysgwydd a medalau o nifer o arweinwyr amlycaf y dydd, yn cynnwys yr Arlywydd Grant, Horatio Seymour (gwleidydd amlwg yn Utica) a'r Cadfridog Harding.[1] Creodd bortreadau o nifer o bobl enwog eraill hefyd a chawsant eu cynhyrchu mewn plaster wedyn a'u gwerthu ar raddfa eang nes y daeth Dafydd Richards yn enw adnabyddus iawn yn y Taleithiau. Ond erbyn heddiw fe'i cofir yn bennaf fel y gŵr a bortreadai nifer o Indiaid brodorol. Maent yn cynnwys y cerflun anferth 18 tunnell a wnaeth yn 1892 o'r pennaeth Black Hawk (1767–1838), ymladdwr dros hawliau'r Indiaid yn erbyn y dyn gwyn, a ddaeth yn ddelwedd Americanaidd eiconaidd.[3] Mae i'w gweld heddiw yn y Watchtower Lodge, Illinois.

Cofnodir iddo ddychwelyd ar ymweliad i'w fro enedigol o leiaf un waith, yn 1868.[3] Roedd yn arlunydd medrus hefyd ond am ei gerfluniau y'i cofir. Un o uchafbwyntiau mawr ei yrfa oedd yr arddangosfa o'i waith yn Ffair y Byd Chicago, 1893. Bu farw yn Efrog Newydd yn 1897.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 AskArt.com
  2. Elwyn Roberts, Wrth Odre Cadair Idris (Cyhoeddiadau Mei, 1989), tud. 90.
  3. 3.0 3.1 Wrth Odre Cadair Idris, tud. 91.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]