Rebecca St. James
Rebecca St. James | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 26 Gorffennaf 1977 ![]() Sydney ![]() |
Label recordio | Reunion Records, ForeFront Records, Beach Street Records ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, canwr-gyfansoddwr, canwr, actor, cyfansoddwr, ysgrifennwr, artist recordio ![]() |
Arddull | Christian rock, contemporary Christian music ![]() |
Gwefan | http://rsjames.net/ ![]() |
Cantores o Awstralia yw Rebecca St. James (ganwyd 26 Gorffennaf 1977) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel actor ffilm, canwr-gyfansoddwr, canwr, actor, peroriaethwr ac awdur.
Bywyd[golygu | golygu cod]
Ganwyd y gantores bop Gristnogol Rebecca St. James (Rebecca Jean Smallbone) i David a Helen Smallbone yn Sydney, Awstralia. Pan oedd yn 14 oed symudodd gyda'i rheini a'i chwaer a'i brodyr i Nashville Tennessee. Yn ogystal â bod yn gantores ac yn gyfansoddwraig geiriau caneuon y mae hefyd yn awdures ac yn actores lwyddiannus. Bu'n llafar iawn o fewn y mudiad gwrth-erthylu ac mae'n lefarydd ar ran y mudiad Cristnogol dyngarol, Compassion International. Mae'n briod gyda chyn-chwaraewr bas y grŵp Foster the People, Jacob 'Cubbie' Fink (brodor o Colorado a chenhadwr yn Ne Affrica), ac mae ganddynt ddwy ferch. Mae'n byw ar hyn o bryd yn Nashville.[1][2]
Gyrfa[golygu | golygu cod]
Dechreuodd Rebecca berfformio yn Awstralia yn yr wythdegau hwyr a rhyddhaodd albwm annibynnol, Refresh My Heart yn Awstralia o dan yr enw Rebecca Jean. Wedi i'r teulu symud i Nashville, cafodd gynnig arwyddo gyda label ForeFront Records a newidiodd ei henw perfformio ar gais y cwmni. Rhyddhaodd ei halbwm Rebecca St James gyda nhw yn 1994 ac yna saethodd i enwogrwydd yn yr 1990au gyda'r albwm 'God' a Pray. Ers hynny, mae wedi sefydlu ei hun fel un o artistiaid cerddorol amlycaf o fewn y sin Cerddoriaeth Gristnogol Gyfoes. Enillodd wobr Grammy yn 1999 am yr Albwm Gosbel Orau gyda Pray. Yn 2004 ymddangosodd yn y sioe gerdd !Hero, sef opera roc Gristnogol a chafodd rannau mewn amrywiol ffilmiau - megis Faith of Our Fathers (2015) lle portreadodd ffawdheglwr o Awstralia. Chyhoeddodd hefyd sawl cyfrol Gristnogol. Ymysg ei chyhoeddiadau mae'r gyfrol ddefosiynol 40 Days with God: A Devotional Journey (1996), Wait For Me: Rediscovering the Joy of Purity in Romance (a ryddhawyd yn 2002 i hyrwyddo'r sengl Wait For Me) a SHE: Safe, Healthy, Empowered: The Woman You're Made to Be (2004) a'i nofel Gristnogol gyntaf, The Merciful Scar (2013) a ysgrifennodd ar y cyd gyda Nancy Rue. Ymysg ei theithiau perfformio mwyaf nodedig fel artist mae If I had One Chance to Tell You (2006) pan fu'n teithio gyda grŵp Cristnogol arall, BarlowGirl. Rhyddhaodd sawl record gyda ForeFront Records dros y blynyddoedd cyn cyhoeddi, yn 2010, ei bod yn gadael y label ac yn bwriadu rhyddhau ei halbwm addoli nesaf gyda Beach Street/Reunion Records. Yn dilyn cyfnod hesb, dychwelodd St. James i'r stiwdio i recordio Amazing Grace gyda'i brodyr, Joel a Luke Smallbone o'r band For King and Country a rhyddhawyd y gân yn 2017. Ymunodd gyda nifer o artistiaid eraill yn ystod 2018-2019 ar y daith 'Greatest Hits Live'.[3][4]
Cyfeiriedau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Rebecca St. James Marries This Past Weekend In San Diego". ASSIST News Service. 26 Ebrill 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mehefin 2011. Cyrchwyd 26 Ebrill 2011.
- ↑ "Rebecca St. James on Instagram: "Our baby GIRL is here and we are delirious with joy! Imogen (Means pure/Innocent) Watson Fink was born last Friday night and weighed 7…"". Instagram. Instagram. Cyrchwyd 3 February 2019.
- ↑ "The JfH Concert Reviews and Dates: Rebecca St. James, BarlowGirl, Jadon Lavik Tour 2006". Jesusfreakhideout.com. Cyrchwyd 12 March 2011.
- ↑ "My Utmost For His Highest: New multi-artist celebration of classic devotional book".