Ray Mala

Oddi ar Wicipedia
Ray Mala
Ganwyd27 Rhagfyr 1906 Edit this on Wikidata
Candle Edit this on Wikidata
Bu farw23 Medi 1952 Edit this on Wikidata
Hollywood Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Actor ffilm a sinematograffydd o Alaska oedd Ray Mala (ganwyd Ray Wise; 27 Rhagfyr 190623 Medi 1952). Ymddangosodd mewn dros 25 o ffilmiau[1] gan amlaf yn chwarae cymeriadau Inuit neu Hawäiaidd. Fe oedd seren gyntaf y sinema oedd yn Americanwr Brodorol, ac fe'i elwir yn "y Clark Gable Esgimoaidd".[2]

Ganwyd Ray yn Candle ar ochr ogleddol Gorynys Seward, Alaska, yn fab i fasnachwr Iddewig o Rwsia o'r enw Bill Wise, a mam Inupiaq o'r enw Casina Armstrong.[2][3] Cafodd blentyndod anodd: priododd Casina berchennog pwb o Sweden, a gadawodd ei mab gyda'i mam, Nancy Armstrong. Cafodd ei fwlio gan blant eraill oherwydd ei dras gymysg, ond cryfhaodd gymeriad Ray o ganlyniad i hyn. Dysgodd Ray sut i hela gan ddefnyddio bwa a saeth, a gwaywffon, ac roedd yn ddisgybl astud yn yr ysgol leol. Pan oedd yn 14 oed, a nifer o'i deulu wedi eu lladd gan y pandemig ffliw, aeth Ray i Nome i weithio fel llafurwr.[2] Canfuwyd Mala yn ei arddegau gan y fforiwr Frank Kleinschmidt i weithio camera wrth ffilmio yn yr Arctig.[3] Oherwydd yr oedd yn frodor roedd Mala'n medru defnyddio'r camera mewn hinsawdd oer, a chafodd ei sgiliau y tu ôl i'r camera eu sylwi yn Hollywood. Symudodd i Galiffornia i weithio fel dyn camera cynorthwyol i Fox Studios. Denodd sylw am fod yn olygus a chafodd ei ddewis i chwarae'r brif ran mewn ffilm ffug-ddogfen o'r enw Igloo, a ffilmiwyd yn Barrow, Alaska.[2]

Mala oedd yr actor cyntaf nad oedd yn wyn i chwarae prif ran mewn ffilm Hollywood, yn Eskimo (1933). Roedd y prif actoresau oedd yn chwarae gyferbyn â Mala yn y ffilm o dras Tsieineaidd a Ffrengig, ac Hawäiaidd a Japaneaidd. Eskimo oedd y ffilm fawr gyntaf gan stiwdio a ffilmiwyd yn Alaska, ac roedd yn y ffilm gyntaf i ennill Wobr yr Academi am olygu ffilm.[3] Enillodd y ffilm glod yng Ngogledd America ac yn Ewrop a daeth Mala yn eilun matinée.[2] Roedd y mwyafrif o gymeriadau Mala yn Inuit neu Bolynesiaid, ond chwaraeodd hefyd Indiaid Cochion mewn ambell ffilm y Gorllewin Gwyllt, a hefyd amryw o gymeriadau eraill, gan gynnwys estron yn Flash Gordon Conquers the Universe. Actiodd Mala gyferbyn nifer o sêr Oes Aur Hollywood, a ffilmiodd nifer ohonynt yn ei waith fel sinematograffydd i Howard Hawks, Otto Preminger ac Alfred Hitchcock.[2] Gweithiodd fel sinematograffydd ar Shadow of a Doubt (1943), un o ffilmiau Hitchcock.[1] Bu farw Mala yn Hollywood yn 45 oed o gymhlethdodau o ganlyniad i afiechyd y galon, a waethygwyd gan ffilmio mewn jynglau Mecsico.[2]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Actor[golygu | golygu cod]

Sinematograffydd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Top 10 Alaskans: Ray Mala. TIME. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2013.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 (Saesneg) Dunham, Mike (26 Mawrth 2011). Book recounts career of The 'Eskimo Clark Gable'. Anchorage Daily News. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Anderson, Ben (28 Mawrth 2011). New Ray Mala biography spurs statewide tribute. Alaska Dispatch. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2013.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Morgan, Lael.Eskimo Star: From the Tundra to Tinseltown the Ray Mala Story (Epicenter Press, 2011). ISBN 9781935347125

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: