Howard Hawks

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Howard Hawks
Hawks portrait crop.png
Ganwyd 30 Mai 1896 Edit this on Wikidata
Indiana Edit this on Wikidata
Bu farw 26 Rhagfyr 1977 Edit this on Wikidata (81 oed)
Achos: Strôc Edit this on Wikidata
Palm Springs Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Cornell
  • Coleg Peirianneg Prifysgol Cornell
  • Phillips Exeter Academy
Galwedigaeth sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, actor, hedfanwr, golygydd ffilm Edit this on Wikidata
Priod Athole Shearer, Slim Keith, Dee Hartford Edit this on Wikidata
Plant Kitty Hawks Edit this on Wikidata
Teulu William Hawks Edit this on Wikidata

Cyfarwyddwr, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilmiau Americanaidd yn ystod Oes Aur Hollywood oedd Howard Winchester Hawks (30 Mai 189626 Rhagfyr 1977). Dywedodd y beirniad Leonard Maltin taw Hawks yw'r "cyfarwyddwr Americanaidd gorau nad yw'n enw cyfarwydd".[1]

Cyfarwyddwr eang ei faes oedd Hawkes a greodd ffilmiau mewn amryw o fathau: comedi, drama, trosedd a gangsteriaid, gwyddonias, film noir, a'r Gorllewin Gwyllt.[2] Ymhlith ei ffilmiau poblogaidd mae Scarface (1932), Bringing Up Baby (1938), Only Angels Have Wings (1939), His Girl Friday (1940), To Have and Have Not (1944), The Big Sleep (1946), Red River (1948), The Thing from Another World (1951), a Rio Bravo (1959). Rhoddid ei enw ar fath o gymeriad benywaidd bengaled a chadarn ei hiaith, "y ddynes Hawksaidd".[2]

Cafodd Hawks ei enwebu am Wobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau ym 1942 am ei ffilm Sergeant York, ac ym 1975 enillodd Gwobr yr Academi er Anrhydedd am fod yn "wneuthurwr ffilmiau Americanaidd â'i ymdrechion creadigol yn uchel eu parch yn sinema'r byd".[3] Cafodd ddylanwad ar gyfarwyddwyr o fri megis Martin Scorsese, Robert Altman, John Carpenter, a Quentin Tarantino.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Crouse, Richard. "Reel Winners: Movie Award Trivia" (Dundurn, Hydref 2005), t. 250. ISBN 978-1-55002-574-3 Adalwyd ar 26 Gorffennaf 2016.
  2. 2.0 2.1 Wheeler Winston Dixon and Gwendolyn Audrey Foster, A Short History of Film (New Brunswick, NJ: Rutgers University Press) p. 99—101. ISBN 978-0-8135-4270-6.
  3. "Awards." IMDb. Retrieved: July 1, 2016.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: