Rami Malek

Oddi ar Wicipedia
Rami Malek
GanwydRami Said Malek Edit this on Wikidata
12 Mai 1981 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Evansville
  • Notre Dame High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor llais, actor, cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata
PartnerLucy Boynton, Emma Corrin Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Primetime Emmy am waith Arbennig fel Prif Actor mewn Cyfres Ddrama, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr y Screen Actors Guild am y Perfformiad mwyaf Arbennig gan Ddyn mewn Rol Blaenllaw, Critics' Choice Television Award for Best Actor in a Drama Series, Gwobr Satellite am Actor Gorau - Ffilm Nodwedd Edit this on Wikidata

Mae Rami Malek (ganed 12 Mai 1981) yn actor Americanaidd o dras Eifftaidd. Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae'r brif rôl Elliot Alderson yn y gyfres deledu USA Network Mr. Robot.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ganwyd Malek yn Los Angeles, Califfornia i rieni Cristion Coptaidd sy'n dod o'r Aifft.[1] Mae ganddo frawd gefell unfath yn ogystal â chwaer hŷn.

Mynychodd Ysgol Uwchradd Notre Dame yn Sherman Oaks, Califfornia ble y graddiodd yn 1999, yr un pryd â'r actores Rachel Bilson.[2] Derbyniodd radd Baglor y Celfyddyd Gain yn 2003 o Brifysgol Evansville yn Evansville, Indiana.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd yrfa actio Malek yn 2004 gyda'i ymddangosiad gwadd yn y gyfres deledu Gilmore Girls. Aeth yn ei flaen i ymddangos mewn nifer o raglenni eraill, megis Over There (2005), Medium (2005), The War at Home (2005-07),[4][5] 24 (2010) a'r mini-gyfres HBO The Pacific (2010).[6][7][8][9][10]

Mae Malek hefyd wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau, gan gynnwys y ffilmiau Night at the Museum (2006, 2009 a 2014) fel King Ahkmenrah, Larry Crowne (2011), The Master (2012), y ffilm annibynnol Ain't Them Bodies Saints (2013), a'r ffilm ddramatig lwyddiannus Short Term 12 (2013).

Ers 2015, y mae wedi serennu yn y ddrama seicolegol USA Network Mr. Robot. Ar gyfer y rôl hon y mae wedi ennill Gwobr Ddewis y Beirniaid[11] ac wedi derbyn enwebiadau ar gyfer Gwobr Glôb Aur,[12] Gwobr Satellite,[13] Gwobr Gymdeithas yr Actorion Sgrin,[14] a Gwobr Dorian.[15]

Enillodd y Wobr Academi am Actor Gorau yn 2019.

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Malek yn Comic-Con San Diego, 2012

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2006 Night at the Museum King Ahkmenrah
2009 Night at the Museum: Battle of the Smithsonian
2011 Larry Crowne Steve Dibiasi
2012 Battleship Lt. Hill
2012 The Twilight Saga: Breaking Dawn – Part 2 Benjamin
2012 The Master Clark
2013 Ain't Them Bodies Saints Will
2013 Short Term 12 Nate
2013 Oldboy Browning
2014 Need for Speed Finn
2014 Night at the Museum: Secret of the Tomb King Ahkmenrah
2014 Da Sweet Blood of Jesus Seneschal Higginbottom
2017 Buster's Mal Heart I'w chyhoeddi Ôl-gynhyrchu, prif rôl

Teledu[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2004 Gilmore Girls Andy Pennod: "In the Clamor and the Clangor"
2005 Over There Hassan 2 bennod
2005 Medium Timothy Kercher Pennod: "Time Out of Mind"
2005–2007 The War at Home Kenny 21 o benodau
2010 24 Marcos Al-Zacar Seren wadd, 3 pennod yng nghyfres 8
2010 The Pacific Merriell "Snafu" Shelton 6 phennod
2012 Alcatraz Webb Porter Pennod: "Webb Porter"
2012 The Legend of Korra Tahno (llais) 3 pennod
2014 Believe Dr. Adam Terry Pennod: "Pilot"
2015–2019 Mr. Robot Elliot Alderson Prif rôl, 10 pennod

Actio llais[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rôl lais Nodiadau
2004 Halo 2 Lleisiau ychwanegol Heb gredyd
2014 The Legend of Korra Tahno
2015 Until Dawn[16] Joshua "Josh" Washington

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Willmore, Alison (August 26, 2015). "The Hacker Heartthrob From Mr. Robot Who Owned Summer TV". BuzzFeed. Cyrchwyd August 26, 2015.
  2. "Notre Dame High School 1999 Activ Alumns". ndhs.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-26. Cyrchwyd April 10, 2016.
  3. "Local Stars: Film and TV stars who lived and breathed Evansville at some point in their lives". Evansville Living. Cyrchwyd 25 June 2015.
  4. "Interview with Rami Malek of The War at Home". AfterElton.com. Cyrchwyd 6 Ionawr 2011.
  5. "Interview with Rami Malek of The War at Home". Starry Constellation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-12. Cyrchwyd 6 Ionawr 2011.
  6. "Rami Malek Matures With War Role". The Globe and Mail. Cyrchwyd 6 Ionawr 2011.
  7. "The Verge: Rami Malek". Movie Line. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-02. Cyrchwyd 6 Ionawr 2011.
  8. "Interview: Rami Malek – The Pacific". Entertainment Focus. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-15. Cyrchwyd 6 Ionawr 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  9. "The Pacific star Rami Malek has friends in high places". Cineplex.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-02. Cyrchwyd 6 Ionawr 2011.
  10. "Q&A With Actor Rami Malek – The Pacific". Criticize This!. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-11-14. Cyrchwyd 6 Ionawr 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  11. Mitovich, Matt Webb (17 Ionawr 2016). "Critics' Choice Awards: TV Winners Include Fargo, Mr. Robot, Master of None, Rachel Bloom and Carrie Coon". TVLine. Cyrchwyd 18 Ionawr 2016.
  12. Mitovich, Matt Webb (10 Ionawr 2016). "Golden Globes: Mr. Robot and Mozart Win Big; Taraji P. Henson, Lady Gaga, Jon Hamm, Rachel Bloom Grab Gold". TVLine. Cyrchwyd 12 Ionawr 2016.
  13. Ausiello, Michael (9 Rhagfyr 2015). "SAG Awards: Game of Thrones, Homeland, House of Cards Lead Noms; Empire, Inside Amy Schumer Shut Out; Mr. Robot's Rami Malek Sneaks In". TVLine. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2015.
  14. "Satellite Awards (2015)". International Press Academy. 1 Rhagfyr 2015. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2015.
  15. "'Carol' Earns Multiple Mentions as Dorian Award Nominees Are Unveiled". 12 Ionawr 2016. Cyrchwyd 25 Chwefror 2016.
  16. Pete Samuels (12 Awst 2014). "Until Dawn unveiled for PS4 at Gamescom 2014". PlayStation.Blog.Europe.