Radio Bro-Gwened
Jump to navigation
Jump to search
Sefydlwyd Radio Bro-Gwened yn 1983 fel gorsaf radio i wasanaethu ardal Bro-Gwened (Morbihan) yn Llydaw. Mae'n darlledu rhaglenni yn Llydaweg a Ffrangeg gyda'r amcan o hyrwyddo a diogelu'r iaith Lydaweg a diwylliant Llydaw. Lleolir y pencadlys yn Pontivy.
Mae'n darlledu ar dair amledd FM : 92.6 Mhz (Pontivy), 101.7 Mhz (Nord-Morbihan) a 97.3 Mhz (De-Morbihan). Mae Radio Bro-Gwened yn darlledu 7 awr o raglenni amrywiol (4 awr yn Llydaweg) yn ogystal â rhaglenni newyddion a deunydd arall. Mae ar gael fel radio rhyngrwyd hefyd.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Llydaweg) (Ffrangeg) Gwefan yr orsaf
- (Llydaweg) (Ffrangeg) Gorsafoedd radio Llydaweg ar-lein