Bro-Wened

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bro-Gwened

Bro-Wened neu Bro-Gwened yw'r enw Llydaweg am rân o Lydaw o gwmpas tref Gwened (mae'r enw'n debyg i Wynedd yn Gymraeg) Mae hefyd yn enw am hen deyrnas ac esgobaeth yn Llydaw, ac un o naw talaith hanesyddol Llydaw (Ffrangeg: Vannetais).

Esgobaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Hen deyrnas ac un o esgobaethau traddodiadol Llydaw oedd Broe-Wened. Tywysog Warog a fu brenin cyntaf, a Bro-Ereg yw enw arall Bro-Wened. Ers y 9fed canrif, ar ôl i Nominoe cyfuno gwledydd bach Llydaw, dim ond esgobaeth oedd, a ddaeth i ben yn 1790 pan grewyd rhanbarthau newydd Ffrainc, sef départements yn dilyn y Chwyldro Ffrengig. Tref Gwened oedd prifddinas yr esgobaeth. Mae'r rhan fwyaf yr hen fro yn rhan o département Morbihan (enw ffranceg oddi wrth y llydaweg Mor-Bihan, sef Mor Bychan) erbyn hyn.

Bro[golygu | golygu cod y dudalen]

Heddiw, Bro-Wened yw'r fro lle siaradir tafodiaith arbennig o'r Llydaweg. Dywedir "gwenedeg" neu "yezh Gwened", iaith Gwened.

Cymunedau Bro-Gwened[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of Brittany (Gwenn ha du).svg Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.