Neidio i'r cynnwys

Radio Naoned

Oddi ar Wicipedia
Radio Naoned
Enghraifft o:gorsaf radio Edit this on Wikidata
IaithLlydaweg Edit this on Wikidata
PencadlysNaoned Edit this on Wikidata

Gorsaf radio yn Llydaweg ei hiaith yw Radio Naoned a ddarlledwyd yn gyfan gwbl ar yr RND yn rhanbarth Bro Naoned ers 2019.

Dechreuwyd ar y gwaith o sefydlu Radio Naoned fel adain o Radio Kerne oedd eisoes wedi bodoli ers 20 mlynedd.[1] Cafwyd cefnogaeth i'r fenter drwy arian a godwyd drwy ras o blaid y Lydaweg, y Redadeg yn 2018.

Mae Radio Noaned yn rhan o rwydwaith Radio Breizh sy'n rhannu eitemau newyddion ac yn lwyfan ganolog i'r holl orsafoedd radio lleol Llydaweg eu hiaith. Gelwyd Radio Breizh yn wreiddiol yn Brudañ ha Skignañ ("trosglwyddo a darlledu") ond a elwir bellach yn Radio Breizh.[2]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Radio Naoned - Rann 1, épisode 1". France 3 Bretagne ar Youtube. 10 Ionawr 2021.
  2. "Brudañ ha Skignañ : les radios bretonnes brittophones se mettent en réseau". Agence Bretagne Presse. 15 Hydref 2008.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am radio. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato