Quentin Massys
Gwedd
| Quentin Massys | |
|---|---|
| Ganwyd | 1466, 1460s, 1456, 1465 Leuven |
| Bu farw | 14 Medi 1530 Antwerp |
| Galwedigaeth | arlunydd, celfyddydwr, drafftsmon, cynllunydd medalau, artist |
| Arddull | portread |
| Mudiad | paentio Iseldiraidd cynnar |
| Plant | Jan Matsys, Cornelis Massijs |
Arlunydd Ffleminaidd yn oes peintio Iseldiraidd cynnar oedd Quentin Massys (tua 1465/66 – 1530). Ef oedd yr arlunydd pwysig cyntaf yn y mudiad a elwir 'Ysgol Antwerp'.
Ganwyd yn Leuven, Brabant, ac yno fe gafodd ei hyfforddi'n of. Dywedir iddo ddewis astudio peintio wedi iddo ymserchu ym merch arlunydd. Aeth i Antwerp yn 1491 ac yno fe ymunodd ag urdd yr arlunwyr. Bu ei ddau fab, Jan a Cornelis, hefyd yn arlunwyr.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Quentin Massys. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mehefin 2018.