Qin Shi Huang

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Qin Shihuang)
Jump to navigation Jump to search
Qin Shi Huang

Qin Shi Huang (秦始皇, Qín Shǐhuáng, 259 CC10 Medi 210 CC oedd ymerawdwr cyntaf Tsieina a sylfaenydd Brenhinllin y Qin. Adnabyddir ef fel yr Ymerawdwr Cyntaf (始皇帝, Shǐ Huáng Dì).

Ganed ef yn Handan, yng ngwladwriaeth Zhao. Daeth yn frenin gwladwriaeth Qin o 246 CC i 221 CC, ac yn ymerawdwr Tsieina unedig o 221 CC hyd ei farwolaeth.

Wedi iddo uno Tsieina, dechreuodd ef a'i brif gynghorydd, Li Si, ar gyfres o ddiwygiadau pellgyrhaeddol. Ef a adeiladodd y fersiwn gyntaf o Fur Mawr Tsieina, ac mae ei fawsolewm ger Xi'an sy'n cael ei gwarchod gan y Fyddin Derracotta yn fyd-enwog. Adeiladodd rwydwaith o ffyrdd trwy'r wlad. Fodd bynnag, mae'n ffigwr dadleuol, oherwydd gwnaed hyn ar gost o filoedd o fywydau. Gwnaeth athroniaeth Conffiwsiaeth yn anghyfreithlon, a llosgodd lyfrau a chladdu ysgolheigion yn fyw.