Qin Shi Huang
| Qin Shi Huang | |
|---|---|
![]() | |
| Ganwyd | 259 CC Handan |
| Bu farw | 210 CC Guangzong County |
| Dinasyddiaeth | Brenhinllin Qin, Qin |
| Galwedigaeth | gwleidydd, ymerawdwr, llywodraethwr, teyrn |
| Swydd | Ymerawdwr Tsieina, brenin Tsieineaidd |
| Olynydd | Qin Er Shi |
| Tad | King Zhuangxiang of Qin |
| Mam | Queen Dowager Zhao |
| Plant | Prince Jianglü, Prince Gao, Ziying, Qin Er Shi, Fusu, Q64015590 |
| Llinach | Brenhinllin Qin |
Qin Shi Huang (秦始皇, Qín Shǐhuáng, 259 CC – 10 Medi 210 CC oedd ymerawdwr cyntaf Tsieina a sylfaenydd Brenhinllin Qin. Adnabyddir ef fel yr Ymerawdwr Cyntaf (始皇帝, Shǐ Huáng Dì).
Ganed ef yn Handan, yng ngwladwriaeth Zhao. Daeth yn frenin gwladwriaeth Qin o 246 CC i 221 CC, ac yn ymerawdwr Tsieina unedig o 221 CC hyd ei farwolaeth.
Wedi iddo uno Tsieina, dechreuodd ef a'i brif gynghorydd, Li Si, ar gyfres o ddiwygiadau pellgyrhaeddol. Ef a adeiladodd y fersiwn gyntaf o Fur Mawr Tsieina, ac mae ei fawsolewm ger Xi'an sy'n cael ei gwarchod gan y Fyddin Derracotta yn fyd-enwog. Adeiladodd rwydwaith o ffyrdd trwy'r wlad. Fodd bynnag, mae'n ffigwr dadleuol, oherwydd gwnaed hyn ar gost o filoedd o fywydau. Gwnaeth athroniaeth Conffiwsiaeth yn anghyfreithlon, a llosgodd lyfrau a chladdu ysgolheigion yn fyw.
