Pwdin Eryri

Oddi ar Wicipedia

Pwdin marmalêd wedi ei stemio o Gymru yw pwdin Eryri. Dodir haen o resins mewn basn pwdin. Cymysgir siwed, briwsion bara, siwgr brown, blawd reis neu flawd corn, croen lemwn, a phinsiaid o halen mewn powlen gydag wyau wedi eu curo a marmalêd lemwn. Rhoddir y cymysgedd hwn ar ben y rhesins yn y basn pwdin a'i stemio am awr a hanner. Fe'i weinir gyda chwstard. Pan ddodir y pwdin allan mae'r copa o resins ar ei ben yn rhoi iddo olwg sy'n debyg i fynydd, ac felly'n rhoi iddo ei enw.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Sheila Howells, Favourite Welsh Recipes (Sevenoaks, Caint: J. Salmon, 1994), t. 3.