Ptolemi XIII Theos Philopator

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ptolemi XIII)
Jump to navigation Jump to search
Ptolemi XIII Theos Philopator
Ganwyd 62 CC Edit this on Wikidata
Yr Aifft Edit this on Wikidata
Bu farw 47 CC Edit this on Wikidata (Gweithredydd < annisgwyl oed)
Achos: boddi Edit this on Wikidata
Afon Nîl Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Yr Hen Aifft Edit this on Wikidata
Galwedigaeth brenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Swydd Pharo Edit this on Wikidata
Tad Ptolemi XII Auletes Edit this on Wikidata
Mam Cleopatra V of Egypt Edit this on Wikidata
Priod Cleopatra Edit this on Wikidata
Llinach Brenhinllin y Ptolemïaid Edit this on Wikidata

Un o dŷ brenhinol y Ptolemiaid a brenin yr Aifft o 51 CC hyd ei farwolaeth oedd Ptolemi XIII Theos Philopator, (Groeg: Πτολεμαίος Θεός Φιλοπάτωρ (62 CC/61 CC - 13 Ionawr, 47 CC?).

Roedd yn fab i Ptolemi XII Auletes, ac ar farwolaeth ei dad daeth yn frenin yn 51 CC, yn 12 oed, ar y cyd a'i chwaer hŷn Cleopatra VII, a ddaeth yn wraig iddo.

Wedi teyrnasu am dair blynedd, gyrrodd Ptolemi ei chwaer o'r orsedd ar gyngor Pothinus ac Achillas, ac alltudiwyd hi i Syria. Ceisiodd Cleopatra adennill yr orsedd, ond ni lwyddodd ar y cychwyn. Yn 48 CC, ffôdd y cadfridog Rhufeinig Gnaeus Pompeius Magnus i'r Aifft wedi iddo gael ei orchfygu gan Iŵl Cesar ym Mrwydr Pharsalus. Ar gyngor Pothinus, gorchymynodd Ptolemi ei lofruddio wrth iddo lanio.

Yn fuan wedyn, cyrhaeddodd Iŵl Cesar a'i fyddin ddinas Alexandria. Cymerodd Cesar ochr Cleopatra, a ddaeth yn gariad iddo, yn erbyn Ptolemi. Flwyddyn yn ddiweddarach boddwyd Ptolemi yn Afon Nîl wrth ymladd yn erbyn milwyr Cesar.