Priordy Ynys Bŷr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Priordy Ynys Bŷr
Daearyddiaeth
SirSir Benfro
GwladBaner Cymru Cymru
Mae'r erthygl yma yn trafod yr hen briordy ar Ynys Bŷr. Am y fynachlog bresennol, gweler Abaty Ynys Bŷr.

Priordy yn perthyn i Urdd Tiron ar Ynys Bŷr oddi ar arfordir Sir Benfro oedd Priordy Ynys Bŷr. Roedd yn un o dri tŷ crefydd yn perthyn i'r Tironiaid yn Sir Benfro; y fam dŷ oedd Abaty Llandudoch.

Roedd yn wreiddiol yn glas Celtaidd, a chysylltiad a Llanilltud Fawr. Rhoddwyd yr ynys i Abaty Llandudoch gan Geva, gweddw Martin o Tiron, ac erbyn 1137 roedd priordy Tironaidd eedi ei sefydlu yno.

Erbyn diddymiad y mynachlogydd, roedd gwerth y priordy yn £5 yn 1535, a dim ond un mynach oedd ar ôl. Diddymwyd y priordy yn 1536.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies, 1992)
WalesPembrokeshire.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato