Prifysgol Cumbria

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Prifysgol Cumbria
University of Cumbria
Prifysgol-Cumbria-Campws-Bromton-Road.jpg
Campws Brompton Road, Caerliwelydd
Sefydlwyd 1 Awst 2007
Math Cyhoeddus
Canghellor Y Gwir Anrh John Sentamu, Archesgob Efrog
Is-ganghellor Julie Mennell
Myfyrwyr 8,635(2016/17)
Israddedigion 6,995
Ôlraddedigion 1,795
Lleoliad Caerliwelydd
Caerhirfryn
Ambleside
Llundain, Baner Lloegr Lloegr
Cyn-enwau Charlotte Mason College, St Martin's College, Cumbria Institute of the Arts
Tadogaethau Cathedrals Group, Million+
Gwefan Gwefan Prifysgol Cumbria

Mae Prifysgol Cumbria yn brifysgol gyhoeddus yng Nghumbria. Mae ei bencadlys yng Nghaerliwelydd. Mae campysau mawr eraill yng Nghaerhirfryn, Ambleside, a Llundain. Fe'i sefydlwyd yn 2007, yn dilyn uno Coleg St Martin gyda Sefydliad Celfyddydau Cumbria a champysau Cumbria o Brifysgol Canolbarth Swydd Gaerhirfryn. Mae ei wreiddiau yn ymestyn yn ôl i'r "Gymdeithas ar gyfer Annog y Celfyddydau Cain" a sefydlwyd ym 1822 a choleg hyfforddi athrawon Charlotte Mason a sefydlwyd yn y 1890au[1].

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffurfiwyd Prifysgol Cumbria trwy uno Coleg Sant Martin, Caerhirfryn, Sefydliad Celfyddydau Cumbria (Coleg Celf a Dylunio gynt), a champysau Cumbria ym Mhrifysgol Ganol Swydd Caerhirfryn ar 1 Awst 2007. Cyn hynny, roedd y sefydliadau hyn yn cynnal rhaglenni gradd a achredwyd gan Brifysgol Caerhirfryn a Phrifysgol Ganol Swydd Gaerhirfryn. Er mwyn hwyluso'r newid, gwnaeth Coleg Sant Martin gais am bwerau dyfarnu graddau annibynnol ym mis Mawrth 2005 a bu'n llwyddiannus ym mis Gorffennaf 2006 ar ôl naw mis o archwiliad gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd. Ym mis Ionawr 2007 derbyniwyd statws swyddogol prifysgol gan y Cyfrin Gyngor[2].

Campysau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r brifysgol yn seiliedig ar ganfyddiadau adroddiad gan Syr Martin Harris. Roedd ei gynllun hwn yn rhagweld prifysgol ar sail "rhwydwaith dysgu dosbarthedig", lle byddai addysgu yn digwydd ym mhrif gampysau'r Brifysgol ac mewn colegau addysg bellach o gwmpas y sir. Byddai hyn yn datrys problem ardaloedd anghysbell nad oedd ganddynt fynediad uniongyrchol at addysg uwch yn flaenorol.

Mae pencadlys y brifysgol yng Nghaerliwelydd. Mae ei champysau mawr eraill yn Ambleside a Chaerhirfryn (Coleg St Martin's gynt) ac mae ganddo ystafelloedd dosbarth a chyfleuster gwaith agored yng Nghanolfan Energus yn Blackwood Road, Lillyhall, Workington. Yn flaenorol, roedd gan y brifysgol safleoedd ym Mhenrith (cyn Coleg Amaethyddol Newton Rigg) a Llundain. Mae Newton Rigg bellach wedi cael ei drosglwyddo i Goleg Askham Bryan ac mae darpariaeth Tower Hamlets wedi symud i Ffordd Doc Dwyrain India. Mae Coleg Furness, yn Barrow-in-Furness wedi datblygu cysylltiadau agos gyda'r brifysgol ac maent yn rhannu rhai cyfleusterau.

Campws Caerliwelydd, Fusehill Street[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd y safle ei fywyd fel Tloty Undeb Caerliwelydd ym 1863[3]. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, o Hydref 1917 i Fehefin 1919, defnyddiwyd yr adeiladau fel ysbyty milwrol, ac yn ystod yr amser hwnnw cafodd bron i 10,000 o filwyr eu trin yno. Ym 1938, cafodd ei droi'n ysbyty trefol, yna ysbyty milwrol unwaith eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac ar ôl hynny daeth yn Ysbyty Cyffredinol y Ddinas hyd ei gau ym 1999.

Campws Caerliwelydd, Brampton Road[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd campws Brampton Road gynt yn Sefydliad Celfyddydau Cumbria, a sefydlwyd ym mis Hydref 1822 fel "Cymdeithas i Annog y Celfyddydau", cyn troi'n Goleg Celf Caerliwelydd ac yna'n Goleg Celf a Dylunio Caerliwelydd.

Mae campws Brampton Road bellach yn gartref i Sefydliad Celfyddydau'r brifysgol, gyda dros 1000 o fyfyrwyr celfyddyd llawn amser.

Campws Caerhirfryn, Bowerham Road[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi ei leoli yng nghyn barics Catrawd Frenhinol y Brenin (Caerhirfryn). Ym 1962 daeth yn goleg addysg.

O'r cychwyn cyntaf, roedd y coleg yn bwriadu dyfarnu graddau yn ogystal â Thystysgrifau Addysg ac arloesodd gyda chyrsiau Anrhydedd BA pedair blynedd gyda statws athro cymwysedig. Erbyn 1966 roedd y coleg yn addysgu myfyrwyr TAR.

Datblygodd y coleg gyrsiau mewn nyrsio a radiograffeg, iechyd galwedigaethol, gwaith cymdeithasol a chyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol. Sefydlwyd perthnasau cryf gydag adrannau hyfforddi ymddiriedolaethau'r GIG.

Datblygodd y coleg gyrsiau pellach yn y dyniaethau, y celfyddydau a chwaraeon. Yn y 1990au adeiladwyd nifer o rannau newydd ar y campws gan gynnwys Canolfan Chwaraeon, Adeilad y Dyniaethau, Darlithfa Hugh Pollard a llety myfyrwyr[4].

Ambleside[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 1 Rhagfyr 2009, cyhoeddwyd y byddai campws Ambleside yn cael ei gau ar ddiwedd mis Gorffennaf 2010, ac na fyddai bellach yn cymryd myfyrwyr israddedig newydd. Cynhaliwyd protest ar 1 Rhagfyr 2009 gan gorff y myfyriwr. Roedd hyn er gwaethaf cefnogaeth a addawyd gan Tim Farron AS i'r campws a'i fyfyrwyr[5].

Ym mis Gorffennaf 2011, cyhoeddodd y brifysgol gynllun i ailagor y campws a chynyddu niferoedd y myfyrwyr. Dechreuodd hyn yn 2014. Mae Ambleside bellach yn cynnal cyrsiau mewn astudiaethau awyr agored, coedwigaeth, busnes cadwraeth, arweinyddiaeth a chynaliadwyedd[6].

Penrith[golygu | golygu cod y dudalen]

Dysgwyd rhaglenni gradd mewn Coedwigaeth, Cadwraeth, Astudiaethau Awyr Agored, Arweinyddiaeth Awyr Agored a Gwyddorau Cymhwysol o gampws Penrith yn Newton Rigg. Sefydlwyd yr Ysgol Goedwigaeth Genedlaethol yno yn y 1960au ac mae ganddi hanes hir o addysgu rheolwyr coedwigoedd, sy'n parhau hyd heddiw. Symudodd y rhaglenni i'w cartref newydd yn Ambleside yn 2013 (rhaglenni Awyr Agored) a 2014 (Coedwigaeth, Cadwraeth, a Gwyddorau Cymhwysol).

Trosglwyddwyd darpariaeth addysg bellach ac asedau campws Newton Rigg i Goleg Askham Bryan ym mis Mawrth 2011, ond parhaodd y brifysgol i gynnal cyrsiau addysg uwch yno am dair blynedd.

Workington[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan y brifysgol le yn y cyfleuster Energus yn Blackwood Road, Lillyhall, Workington. Agorwyd y cyfleuster ym mis Mehefin 2009 sef presenoldeb cyntaf y brifysgol yng Ngorllewin Cumbria.

Cyn-fyfyrwyr nodedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]