Tloty

Oddi ar Wicipedia
Hen dloty yn Nantwich a adeiladwyd tua 1780

Adeilad lle rhoddwyd llety a chyflogaeth i bobl nad oeddent yn medru edrych ar ôl eu hunain oedd y tloty (a alwyd yn wyrcws hefyd).

Daeth y tlotai i fodolaeth yn sgil Deddf y Tlodion 1388 a oedd yn ceisio mynd i'r afael a'r prinder gweithwyr a ddaeth o achos y Pla Du yn Lloegr. Roedd y Pla Du wedi atal gweithwyr rhag gallu symud o ardal i ardal i chwilio am waith, ac o ganlyniad daeth y wladwriaeth yn gyfrifol am gynorthwyo'r tlodion. Ond pan gododd nifer y bobl ddi-waith yn ddifrifol oherwydd diwedd y Rhyfel Napoleanaidd yn 1815, datblygiad technoleg newydd a gafodd wared ar weithwyr amaethyddol a sawl cynhaeaf gwael, roedd angen system newydd er mwyn delio â'r tlodion. Bwriad Deddf y Tlodion Newydd yn 1834 oedd ceisio lleihau cymorth i bobl a oedd yn gwrthod mynd i'r tloty. Roedd ambell awdurdod wedi gobeithio rhedeg y tlotai fel busneau a oedd yn gwneud elw, trwy gael y gweithwyr i weithio am ddim. Cyflogwyd y rhan fwyaf o'r tlodion er mwyn gwneud swyddi fel torri creigiau, malu esgyrn er mwyn creu gwrtaith neu blicio ocwm gan ddefnyddio hoelen fawr metal.

Roedd bywyd yn y tloty i fod yn anodd er mwyn annog pobl i beidio â mynd yno ac i sicrhau mai'r bobl a oedd yn wirioneddol dlawd oedd yn mynd yno. Wrth i'r bedweradd ganrif ar bymtheg fynd yn ei blaen, cynyddodd nifer yr hen bobl a phobl sâl a oedd yn y tlotai, yn hytrach na phobl iach ac yn 1929, a phasiwyd deddf a oedd yn galluogi awdurdodau lleol i gymryd rheolaeth dros y tlotai a'r ysbytai lleol. Er i dlotai gael eu diddymu'n ffurfiol yn 1930, roedd nifer wedi parhau dan eu henwau newydd, y Sefydliad Cymorth Cyhoeddus. Ni ddiflannodd tlotai yn gyfan gwbl nes i'r Ddeddf Cymorth Cenedlaethol 1948 gael ei phasio.