Portia Doubleday

Oddi ar Wicipedia
Portia Doubleday
Doubleday yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto 2009
GanwydPortia Ann Doubleday Edit this on Wikidata
22 Mehefin 1988 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
TadFrank Doubleday Edit this on Wikidata

Mae Portia Ann Doubleday (ganed 22 Mehefin 1988) yn actores Americanaidd. Mae'n adnabyddus am chwarae Angela yn y ddrama deledu USA Network Mr. Robot.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ganwyd a magwyd Doubleday yn Los Angeles, Califfornia, yn ferch i Christina Hart a Frank Doubleday, sy'n gyn-actorion. Mae ei chwaer, Kaitlin, hefyd yn actores.[1] Mae ei mam erbyn hyn yn gweithio yn y diwydiant adloniant fel ysgrifenwraig a chynhyrchydd dramâu.[2]

Mynychodd Doubleday y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau Cyfoethog yn Los Angeles, ysgol fagnet yng ngorllewin y ddinas.[3] Disgrifiodd ei hun fel "tomboy" i'r Los Angeles Times, yn chwarae pêl-droed am ddeuddeg mlynedd.[4] Yn 2010, yr oedd Doubleday yn astudio seicoleg yn y coleg ac yn ystyried gwneud cwrs cyn-feddygaeth.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Mae Doubleday wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau, gan gynnwys rôl fel Sheeni Saunders yn Youth in Revolt yn 2009.[1] Ymddangosodd yn y ffilm fer 18 yn 2009, am ferch sy'n dygymod gyda diwedd bywyd ei mam,[5] yn ogystal â rôl fel Jasmine Lee yn y ffilm 2011 Big Mommas: Like Father Like Son. Yn fwy diweddar y mae wedi serennu fel Chris Hargensen yn y ffilm 2013 Carrie.

Ar y teledu, ymddangosodd Doubleday yn rheolaidd yn y comedi sefyllfa ABC Mr. Sunshine wrth ochr Matthew Perry ac Allison Janney rhwng 2010–2011.[6][7] Ers mis Mai 2015, mae wedi serennu yn y gyfres deledu USA Network Mr. Robot gyda Rami Malek a Christian Slater. Mae'n chwarae ffrind a chyd-weithiwr i gymeriad Malek.

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1998 Legend of the Mummy Margaret ifanc
2009 18 Becky Ffilm fer
2009 Youth in Revolt Sheeni Saunders
2010 In Between Days Lindley Ffilm fer
2010 Almost Kings Lizzie
2011 Big Mommas: Like Father, Like Son Jasmine Lee
2012 K-11 Butterfly
2012 Howard Cantour.com Dakota Ffilm fer
2013 Carrie Chris Hargensen
2013 Her Isabella
2015 After the Ball Kate / Nate Prif rôl

Teledu[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2011 Mr. Sunshine Heather 13 o benodau
2015–presennol Mr. Robot Angela Moss Prif rôl

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Ouzounian, Richard (5 Ionawr 2010). "Portia Doubleday: Michael Cera's transformer". Toronto Star. Toronto. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-19. Cyrchwyd 7 Ionawr 2010.
  2. Stein, Ruthe (6 Ionawr 2010). "Youth in Revolt's Portia Doubleday making a name for herself". Houston Chronicle. Houston. Cyrchwyd 7 Ionawr 2010.
  3. Patti, Greco (October 7, 2015). "Sisters Kaitlin and Portia Doubleday on "Empire" and "Mr. Robot," Sibling Rivalry, and High School". Cosmopolitan. Cyrchwyd 19 Chwefror 2016.
  4. Ordoña, Michael (7 Ionawr 2010). "Brains and beauty in 'Youth in Revolt'". Los Angeles Times. Los Angeles. Cyrchwyd 7 Ionawr 2010.
  5. Ordoña, Michael (7 Ionawr 2010). "Where you've seen Portia Doubleday". Los Angeles Times. Los Angeles. Cyrchwyd 7 Ionawr 2010. Italic or bold markup not allowed in: |newspaper= (help)
  6. Andreeva, Nellie (12 Ionawr 2010). "Matthew Perry project a go at ABC". The Hollywood Reporter. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-15. Cyrchwyd 25 Ebrill 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. Hibberd, James (18 Mai 2010). "ABC's new fall schedule". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 18 Mai 2010.[dolen marw]Nodyn:Cbignore