Port Rìgh

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Port Rìgh
2007-07-06 GreatBriain Portree.jpg
Math Tref Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Cyngor yr Ucheldir Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau 57.4131°N 6.1936°W Edit this on Wikidata
Cod OS NG483454 Edit this on Wikidata
Cod post IV51 Edit this on Wikidata

Port Rìgh (Saesneg: Portree) yw tref fwyaf An t-Eilean Sgitheanach (Ynys Skye) yn Ynysoedd Mewnol Heledd yn yr Alban. Ceir harbwr yma, a chanolfan ar gyfer diwylliant Gaeleg yr ynys, Canolfan Aros. Yma mae'r unig ysgol uwchradd ar yr ynys. Roedd y boblogaeth yn 2,491 yn 2001, gydag oddeutu 37.72% o'r rhain yn siarad Gaeleg.

Y Royal Hotel oedd safle'r cyfarfod olaf rhwng Flora MacDonald a Charles Edward Stuart (Bonnie Prince Charlie) yn 1746.