Port Moresby

Oddi ar Wicipedia
Port Moresby
Mathprifddinas, dinas â phorthladd, dinas fawr, tref/dinas, administrative territorial entity of Papua New Guinea, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlJohn Moresby Edit this on Wikidata
Poblogaeth317,374 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1873 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+10:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iTownsville, Jinan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPapua Gini Newydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Papua Gini Newydd Papua Gini Newydd
Arwynebedd240 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr35 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawGwlff Papua Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau9.4789°S 147.1494°E Edit this on Wikidata
Cod post111 Edit this on Wikidata
PG-NCD Edit this on Wikidata
Map

Prifddinas a dinas fwyaf Papua Gini Newydd yw Port Moresby (Tok Pisin: Pot Mosbi). Lleolir ar arfordir dwyreiniol Harbwr Port Moresby yng Ngwlff Papua.

Mae gan y ddinas ddwysedd poblogaeth uchaf y wlad o lawer, sy'n cynnwys cymuned Tsieineaidd. Mae nifer sylweddol o drigolion yn byw mewn trefi cytiau a sgwatiau ar gyrion y ddinas. Amcangyfrifir bod 337,900 o drigolion gan Port Moresby yn 2004,[1] a 343,000 yn 2011,[2] a mwy na 400,000 yn 2014.[3][4]

Lleolir adeiladau'r llywodraeth yng nghanol y ddinas ac yn y maestrefi. Daw cyflenwad dŵr o Afon Laloki, a saif gorsaf trydan dŵr ar yr afon. Mae ffyrdd yn cysylltu Port Moresby i Sogeri, Kwikila, a Rhaeader Rouna, a cheir gwasanaethau cludo nwyddau ar longau i borthladdoedd eraill gan gynnwys Sydney.[1]

Mae gan Port Moresby gyfraddau uchel o dor-cyfraith, ac ystyrir yn un o'r dinasoedd sy'n waethaf ei byw ynddi yn y byd.[3][5][6][7]

Hanes[golygu | golygu cod]

Cyn dyfodiad yr Ewropeaid, y pobloedd Motu a Koitabu oedd trigolion yr ardal. Pysgota a thyfu iamau oedd eu bywoliaeth a buont yn masnachu gyda threfi eraill ar hyd yr arfordir. Ymwelodd y Capten John Moresby â'r ardal ym 1873 ac enwodd dwy adran y harbwr yn Fairfax a Moresby, ar ôl ei dad y Llyngesydd Syr Fairfax Moresby. Cafodd yr ardal ei gyfeddiannu gan yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1883–84, a Port Moresby oedd enw poblogaidd y dref. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd daeth yn un o brif ganolfannau'r Cynghreiriaid yn y Cefnfor Tawel a bwriadodd y Japaneaid ei chipio.[1]

Wedi'r rhyfel, Port Moresby oedd prifddinas weinyddol Tiriogaeth Papua ac yn hwyrach Tiriogaeth Papua a Gini Newydd, dan reolaeth Awstralia. Datblygodd y porthladd yn ddinas gynlluniedig fodern. Sefydlwyd Ardal y Brifddinas Genedlaethol (240 km2) ym 1974, a daeth Port Moresby yn brifddinas Papua Gini Newydd pan enillodd y wlad ei hannibyniaeth ym 1975.[1]

Bydd Port Moresby yn cynnal uwchgynhadledd APEC yn 2018.[8]

Adeiladau ac adeilwadwaith[golygu | golygu cod]

  • Amgueddfa Genedlaethol
  • Gerddi Botanegol y Brifddinas Genedlaethol
  • Maes Awyr Rhyngwladol Jackson
  • Mynwent Ryfel Bomana
  • Prifysgol Papua Gini Newydd
  • Tŷ'r Senedd

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Port Moresby. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Hydref 2015.
  2. (Saesneg) Papua New Guinea. UNdata. Adalwyd ar 28 Hydref 2015.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Port Moresby defeats 130 world capitals to win worst city tag. PNG ATTITUDE (6 Hydref 2014). Adalwyd ar 28 Hydref 2015.
  4. (Saesneg) Port Moresby, Papua New Guinea. Global Cities Research Institute, Prifysgol RMIT. Adalwyd ar 28 Hydref 2015.
  5. (Saesneg) Raskol gangs rule world's worst city. The Guardian (22 Medi 2004). Adalwyd ar 28 Hydref 2015.
  6. (Saesneg) Splendid isolation: Dispatches from the most diverse region on earth. The Economist (22 Mai 2009). Adalwyd ar 28 Hydref 2015.
  7. (Saesneg) Damascus, Dhaka, Port Moresby, Lagos and Harare: The Five Worst Cities in the World to Live. International Business Times (29 Awst 2013). Adalwyd ar 28 Hydref 2015.
  8. (Saesneg) Coup for PNG as 'least liveable' city to host 2018 APEC summit. The Australian (10 Hydref 2013). Adalwyd ar 28 Hydref 2015.