Plas Penmynydd
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Yn 1576 y codwyd Plas Penmynydd a hynny gan deulu'r Tuduriaid ym Mhenmynydd, Ynys Môn ar safle plasdy cynharach, tua dwy filltir o Lanfair Pwllgwyngyll. Yma y ganwyd Owain Tudur, priod Catrin o Valois. Mae'r plasty, bellach, mewn dwylo preifat.
Ymwelodd y bardd Iolo Goch â'r plasdy rhywbryd yn y cyfnod 1367-82. Mae'n moli croeso hael Goronwy ap Tudur Fychan (Gronw Fychan) ac yn cymharu Penmynydd i aelwyd llys Urien Rheged:
- Cyntaf lle'r af, llew a rydd,
- Caer Pen Môn, carw Penmynydd,
- Tŷ, gwelais gynt, teg wiwle,
- Tudur Llwyd, da ydyw'r lle;
- Yno mae, heb gae ar ged,
- Ail drigiant aelwyd Rheged.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988). Cerdd V, ll. 47-52