Plas Brereton

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae Plas Brereton yn fila o'r 19eg ganrif sy'n edrych dros Afon Menai ar gyffiniau Caernarfon. Mae'r fila wedi ei osod mewn 11 acer sydd hefyd yn cynnwys porthdy, hen floc stablau, hen adeiladau llefrith, adeiladau eraill a doc preifat a thŷ ceidwad y doc. Adeiladwyd y tŷ tua 1820 ac roedd yn eiddo i deulu Uchel Siryf Sir Caernarfon, Thomas Turner. Roedd Thomas Turner yn Faer Caernarfon o 1846 i 1848. Roedd ganddo hefyd fusnes masnachwyr gwin, ‘Messrs Turner & co.’ ac roedd yn asiant ar gyfer Stad y Faenol. Mi oedd o hefyd yn Rheolwr Chwarel Dinorwig ac yn ystod ymweliad â'r chwarel, disgynnodd Thomas Turner dros rheiliau. Brifodd ei asgwrn cefn, ac arweiniodd hyn i'w farwolaeth yn y diwedd.

Cafodd Plas Brereton ei werthu yn gyhoeddus yn 1896, mi oedd yn cael ei werthu wrth ddweud ei fod mewn sefyllfa dda, a byddai'n gwneud cartref da ar gyfer dyn o gefn gwlad sydd yn dymuno cael bywyd gwledig, ond mae mewn proffesiwn sydd yn meddwl ei fod angen gwario rhan o'r diwrnod mewn swyddfa yn y dre. Mi gafodd ei brynu gan Miss Turner am £8,270 ac yna ei roi ar werth unwaith eto OND mi oedd wedi cael ei wahanu mewn i 11 uned gwahanol.

Datblygiadau Diweddar[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2008, rhoddwyd caniatâd cynllunio hefyd i Dowhill Developments Ltd, unwaith eto y syniad oedd i'w wneud mewn i westy bwtic gyda sba, campfa a phwll nofio. Yn 2013, gosodwyd yr ystâd ar werth trwy ocsiwn gyhoeddus a cafodd ei brynu am £591,146 gan ddatblygwyr o Lundain, ‘Cabot Park Ltd’.