Plaid Annibyniaeth Puerto Rico
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol ![]() |
---|---|
Idioleg | independence movement in Puerto Rico, democratiaeth gymdeithasol, separatism, sosialaeth ddemocrataidd, Gwrth-imperialaeth ![]() |
Lliw/iau | gwyrdd, gwyn ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 20 Hydref 1946 ![]() |
Aelod o'r canlynol | Socialist International ![]() |
Pencadlys | San Juan ![]() |
Enw brodorol | Partido Independentista Puertorriqueño ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Rhanbarth | Puerto Rico ![]() |
Gwefan | http://www.independencia.net/index.php?lang=es ![]() |
![]() |
Plaid wleidyddol ym Mhuerto Rico sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth i Buerto Rico oddi ar yr Unol Daleithiau yw Plaid Annibyniaeth Puerto Rico (Sbaeneg: Partido Independentista Puertorriqueño, PIP). Mae'n un o'r tair plaid mawr ym Mhuerto Rico a'r ail hynaf o'r pleidiau cofrestredig yno.

Fel rheol, gelwir cefnogwyr y PIP a'i ideoleg yn independentistas ("annibynwyr"), neu pipiolos.
Dechreuodd y blaid fel asgell etholiadol y mudiad o blaid annibyniaeth i Buerto Rico. Erbyn heddiw y PIP yw'r mwyaf o'r pleidiau sydd o blaid annibyniaeth a'r unig un a geir ar y papurau balot printiedig adeg etholiad (rhaid ychwanegu enwau ymgeiswyr eraill mewn ysgrifen).
Sefydlwyd y blaid ar 20 Hydref, 1946, gan Gilberto Concepción de Gracia (bu farw ym 1968). Teimlai fod y mudiad dros annibyniaeth wedi cael ei "fradychu" gan y Partido Popular Democrático, a rhoddasai heibio ei nod o ennill annibyniaeth lawn i Buerto Rico.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) [www.independencia.net/ingles/welcome.html Gwefan swyddogol PIP]